Cyngor Sir Caerfyrddin yn croesawu cytundeb PRA25 y Scarlets gydag Undeb Rygbi Cymru
4 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu llofnodi Cytundeb Rygbi Proffesiynol 2025 (PRA25) rhwng Rygbi'r Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru a fydd yn cynnig diogelwch a sefydlogrwydd i rygbi proffesiynol yng ngorllewin Cymru am y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r cytundeb yn gam cadarnhaol i'r Scarlets, eu cefnogwyr, eu staff, eu chwaraewyr a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, gan roi llwyfan cryfach i gyfraniad y clwb o ran chwaraeon, yr economi a'r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Rydyn ni’n croesawu'n fawr y cytundeb hwn, sy'n rhoi diogelwch a sefydlogrwydd mawr eu hangen i rygbi proffesiynol yng ngorllewin Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r Scarlets nid yn unig yn glwb rygbi, ond maen nhw wedi profi eu bod yn gyfrannwr mawr i'n heconomi, yn gyflogwr pwysig, yn ffynhonnell balchder i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin a gorllewin Cymru, ac yn llysgennad dros y Gymraeg, a diwylliant a gwerthoedd Cymru.”
