Cyfleoedd ariannu i drawsnewid eiddo gwag yng nghanol trefi yn Sir Gaerfyrddin
2 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog perchnogion eiddo, busnesau a datblygwyr i fanteisio ar y cyllid sydd ar gael i ddod ag adeiladau gwag yng nghanol trefi yn ôl i ddefnydd.
Mae dau gynllun ariannu – y Gronfa Datblygu Cyfalaf a'r Gronfa Bywiogrwydd Canol Trefi – yn cefnogi'r gwaith o drawsnewid adeiladau gwag yn fannau masnachol bywiog ar draws canol trefi y sir.
Mae'r Gronfa Datblygu Cyfalaf yn cefnogi prosiectau o fewn ardaloedd y Deg Tref, ac mae'r Gronfa Bywiogrwydd Canol Trefi yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Mae'r ddwy gronfa yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.
Mae'r Gronfa Bywiogrwydd Canol Trefi, a ariennir gan Gronfa Twf Lleol y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn canolbwyntio'n benodol ar sicrhau bod eiddo ar y llawr gwaelod yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol unwaith eto.
Mae cyllid ar gael i berchnogion eiddo a lesddeiliaid, gydag isafswm gofyniad prydles o saith mlynedd o ddyddiad y taliad terfynol. Pan fydd landlordiaid yn cyflwyno ceisiadau gyda'r bwriad o osod y safle, bydd rhaid rhoi cytundeb cyn gosod ar waith gyda thenant masnachol cyn gwneud cais llawn.
Os mai Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n berchen ar eiddo, rhaid i ymgeiswyr gytuno ar brydles 7 mlynedd o leiaf ac ymgysylltu ag Adran Eiddo'r Cyngor cyn cyflwyno'r cais.
Er nad oes dyddiad cau penodol ar gyfer cyflwyno ceisiadau, rydyn ni'n annog ymgeiswyr i wneud hyn cyn gynted â phosibl i sicrhau y gellir cyflawni prosiectau o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.
Mae'r cronfeydd eisoes wedi cefnogi nifer o brosiectau adfywio llwyddiannus ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys trawsnewid Tŷ Glo yn Nhalacharn, sydd wedi'i ddychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol, a sawl datblygiad wedi'i gwblhau yng Nghastellnewydd Emlyn sy'n helpu i adfywio canol y dref.
Enghraifft arall yw Emlyn Kitchens, prosiect a gwblhawyd tua 18 mis yn ôl, sy'n parhau i ddangos manteision hirdymor buddsoddi mewn strydoedd mawr lleol.
Mae'r ddau gynllun yn cefnogi ailddatblygu adeiladau gwag neu heb eu defnyddio ddigon, gan gyfrannu at fwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a gwella apêl gyffredinol canol trefi.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae defnyddio adeiladau gwag unwaith eto yn hanfodol ar gyfer dyfodol canol ein trefi. Mae'r cyfleoedd ariannu hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i berchnogion eiddo a busnesau fuddsoddi yn eu cymunedau yn ogystal â chefnogi twf economaidd ledled Sir Gaerfyrddin.
Rydyn ni eisoes wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy'r cronfeydd hyn, a bydden ni'n annog unrhyw un sydd â phrosiect addas i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Deg Tref - Cyngor Sir Caerfyrddin
