Casgliadau biniau i ddechrau'n gynharach ddydd Iau a dydd Gwener oherwydd y tywydd twym

17 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi y bydd casgliadau biniau yn dechrau yn gynharach na'r arfer yfory (dydd Iau 9 Gorffennaf) ac ar ddydd Gwener 10 Gorffennaf 2026 oherwydd y rhagolygon am dymheredd uchel.

I helpu i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant criwiau rheng flaen sy'n gweithio yn y tywydd twym, bydd casgliadau'n dechrau am 5am yn hytrach na 6am ar y ddau ddiwrnod.

Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff gardd a gwastraff hylendid/cewynnau hefyd. Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr roi eu biniau mas y noson gynt, neu cyn 5am ar eu diwrnod casglu.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Lles ein criwiau yw ein blaenoriaeth, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd twym iawn. Drwy ddechrau casgliadau yn gynharach, gallwn ni helpu i leihau faint o amser mae staff yn gweithio yn ystod y rhan dwymaf o'r dydd ond parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr. Rydyn ni'n gofyn i bobl ein cefnogi drwy roi eu gwastraff mas y noson gynt, neu cyn 5am ar eu diwrnod casglu. Diolch am eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y trefniadau dros dro hyn."