Bwriad i gau ffordd y B4317 Heol Capel Ifan, Pontyberem ar gyfer gwaith hanfodol

2 diwrnod yn ôl

Bydd y B4317 Heol Capel Ifan, Pontyberem yn cau o ddydd Llun 20 Gorffennaf 2026 am chwe wythnos er mwyn gosod signalau traffig.

Bydd gwyriad â chyfeiriadau llawn ar waith ar hyd y B4306, y B4309, y B4317 ac i'r gwrthwyneb, gyda mynediad i gerddwyr a cherbydau i eiddo unigol yn cael ei gynnal drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Er mwyn cynnal cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, bydd gwasanaeth bws dros dro yr 195A, a weithredir gan First Cymru, yn cael ei gyflwyno i ddarparu cysylltiadau ym Mhont-iets a fydd yn gwasanaethu Maengwynne, Pum Heol a Chynheidre. Bydd gwasanaeth 195 yn gweithredu rhwng Llanelli a Chaerfyrddin drwy Bontyberem a Llannon, a bydd gwasanaeth 197 yn dargyfeirio drwy Bonthenri.

Ni fydd modd gweithredu gwasanaeth bws uniongyrchol rhwng Pontyberem a Phonthenri yn ystod y gwaith.

Bydd gwasanaethau bws gwennol yr 195A yn gweithredu dros dro rhwng Llanelli drwy Pum Heol a Phont-iets.