Atal dros dro o ran gwaredu oergelloedd a rhewgelloedd yng nghanolfannau ailgylchu Sir Gâr

3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn hysbysu trigolion nad oes modd derbyn oergelloedd, rhewgelloedd a chyfarpar oeri eraill mwyach, a hynny yn unrhyw un o ganolfannau ailgylchu'r sir, neu drwy'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, hyd nes y bydd y cyngor yn rhoi gwybod fel arall.

Mae hyn wedi'i atal dros dro yn dilyn tarfu parhaus ar gasglu ac ailbrosesu cyfarpar rheweiddio, sy'n cael eu galw'n unedau oeri bwyd, mewn cyfleusterau trin gwastraff allanol. O ganlyniad, mae'r holl ganolfannau ailgylchu ar draws Sir Gaerfyrddin bellach wedi cyrraedd, neu dros, eu capasiti o ran storio'r eitemau hyn yn ddiogel.

Mae'r mesur wedi'i gyflwyno i sicrhau bod safleoedd yn dal i fod yn ddiogel, yn cydymffurfio â rheolau ac yn gwbl weithredol wrth i'r stoc bresennol gael ei chlirio ac wrth i drefniadau casglu a thrin gwastraff gael eu datrys.

Rydym yn gofyn i drigolion beidio â dod ag oergelloedd, rhewgelloedd neu gyfarpar oeri eraill i ganolfannau ailgylchu yn ystod y cyfnod hwn, gan na fydd safleoedd yn gallu eu derbyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Yn anffodus, mae amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth wedi arwain at darfu dros dro ar drefniadau casglu a phrosesu cyfarpar rheweiddio. Mae ein canolfannau ailgylchu bellach wedi cyrraedd eu terfynau storio ar gyfer yr eitemau hyn, ac rydym wedi gorfod atal eu derbyn hyd nes y byddwn yn rhoi gwybod fel arall. Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi anghyfleustra i rai trigolion ac rydym am ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i ni weithio gyda'n partneriaid i ddatrys y sefyllfa."

Bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau pellach cyn gynted ag y bydd trefniadau casglu'n ailddechrau a bydd digon o gapasiti storio ar gael.