Annog modurwyr i gymryd gofal wrth i'r rhaglen gosod wyneb flynyddol ddechrau

15 diwrnod yn ôl

Mae modurwyr yn cael eu hannog i yrru'n fwy gofalus wrth i raglen gosod wyneb flynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ddechrau ar draws y sir.

Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, 29 Mehefin, ac mae disgwyl iddo gymryd tua phedair wythnos i'w gwblhau, er y bydd hyn yn amodol ar amodau'r tywydd.

Mae'r gwaith cynnal a chadw priffyrdd hanfodol yn cael ei wneud bob blwyddyn i wella diogelwch ffyrdd ac ymestyn oes rhwydwaith ffyrdd y sir. Bydd y rhaglen eleni yn trin yr hyn sy'n cyfateb i tua 25 milltir o ffordd gerbydau sengl safonol.

Mae gosod wyneb ffordd yn golygu taenu bitwmen poeth ar y ffordd bresennol, ac wedyn rhoi haenau o gerrig mân caled ar ei ben. Ar ôl i'r wyneb newydd sefydlogi, bydd sgubwr mecanyddol yn clirio unrhyw gerrig diangen.

Mae'r driniaeth yn helpu i atal dŵr rhag treiddio i strwythur y ffordd a gwanhau ei seiliau, gan leihau'r tebygolrwydd y bydd tyllau yn datblygu ac ymestyn oes y ffordd gerbydau. Mae hefyd helpu i atal sgidio ar ffyrdd lle mae'r wyneb wedi mynd yn llyfn neu'n llithrig, gan eu gwneud yn fwy diogel i ddefnyddwyr y ffordd.

Fel un o'r dulliau mwyaf cost-effeithiol o gynnal a chadw ffyrdd, mae gwaith gosod wyneb yn caniatáu i draffig ddefnyddio'r ffordd sydd wedi ei thrin bron yn syth ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Mae'r Cyngor yn gofyn i holl ddefnyddwyr y ffordd gadw at y cyfyngiadau cyflymder dros dro a gyrru'n ofalus tra bod y gwaith yn cael ei wneud i leihau'r risg o ddamweiniau neu ddifrod i gerbydau.

Dylai modurwyr:

·       Gyrru'n ofalus a chadw at y terfynau cyflymder a argymhellir.

·       Osgoi mynd heibio i gerbydau eraill ar wynebau sydd wedi'u trin.

·       Peidio â brecio na throi'n sydyn.

·       Parhau i fod yn wyliadwrus o amodau'r ffyrdd ac arwyddion traffig.

Hefyd, mae cerddwyr yn cael eu hannog i gymryd gofal wrth gerdded ar neu ger wynebau sydd wedi eu trin gan fod y bitwmen yn gallu glynu wrth esgidiau. Gellir defnyddio toddyddion fel sbirit gwyn neu dyrpant i waredu bitwmen.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:

Mae gwaith gosod wyneb yn rhan hanfodol o'n rhaglen cynnal a chadw priffyrdd flynyddol ac mae'n un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o warchod ein rhwydwaith ffyrdd. Trwy drin ffyrdd cyn iddyn nhw ddirywio'n sylweddol, gallwn ni atal difrod dŵr, lleihau'r tebygolrwydd o dyllau a gwella'r gallu i atal sgidio i holl ddefnyddwyr y ffordd. 
Rydyn ni'n gofyn i fodurwyr a cherddwyr gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy fannau gwaith a chadw at y terfynau cyflymder dros dro a'r arwyddion traffig. Rydyn ni hefyd yn diolch iddyn nhw am eu hamynedd wrth i'r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn gael ei wneud."