Ymestyn ystod oedran pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin
14 diwrnod yn ôl
Yn ei gyfarfod o'r Cyngor Llawn heddiw (dydd Mercher 10 Mehefin 2026), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i ehangu mynediad at addysg blynyddoedd cynnar drwy newid ystod oedran pedair ysgol gynradd yn y sir o 4-11 i 3-11 oed.
Bydd y newidiadau yn golygu gall plant gael mynediad yn dair oed at addysg feithrin ran-amser wedi'i hariannu, a hynny mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth bresennol yn gyfyngedig, yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Cwrt Henri, Ysgol Gymraeg y Tymbl, ac Ysgol Llanybydder.
Er mwyn ateb y galw am addysg feithrin ran-amser a gofal plant cofleidiol mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth nas cynhelir yn gyfyngedig, caiff yr ysgolion hyn eu hailddynodi yn ysgolion 3-11. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gynnig o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar ran-amser anstatudol i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a sicrhau mynediad tecach at addysg blynyddoedd cynnar ledled y sir.
Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn cyfnod ymgynghori ffurfiol gyda disgyblion, rhieni, athrawon, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgolion rhwng 4 Medi a 16 Hydref 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:
Bydd y penderfyniad hwn heddiw yn helpu i sicrhau bod gan holl blant Sir Gâr fynediad teg a chyfartal at addysg blynyddoedd cynnar, ta ble maen nhw'n byw. Hefyd bydd yn cynyddu'r addysg feithrin ran-amser a'r gofal plant cofleidiol sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn.”
