Y Gymru Ramantaidd yn dod â J.M.W.Turner i Amgueddfa Sir Gâr
1 diwrnod yn ôl
Mae arddangosfa newydd gyffrous, Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion, bellach ar agor yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili tan 16 Hydref 2026. Mae'r arddangosfa, a gefnogir gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund, yn dwyn ynghyd weithiau celf gan artistiaid Rhamantaidd a Neo-Ramantaidd wedi'u hysbrydoli gan dirluniau a threftadaeth Cymru.
Bydd ymwelwyr yn gweld gweithiau gan J.M.W. Turner yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, gan gynnwys llyfr braslunio cynnar o'i ymweliad â De Cymru, ochr yn ochr â dyfrlliwiau o Gastell Llanymddyfri a Melin Llanddowror. Bydd paentiadau gan artistiaid Rhamantaidd blaenllaw o'r 18fed a'r 19eg ganrif, gan gynnwys David Cox (yr Hynaf), Samuel Palmer a Richard Wilson hefyd yn cael eu harddangos.
Cefnogir y benthyciadau gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund. Wedi'i chreu gan Sefydliad Garfield Weston a'r Art Fund, Rhaglen Fenthyca Weston yw'r cynllun ariannu cyntaf erioed ledled y DU i alluogi amgueddfeydd llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyca gweithiau celf ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.
Yn cynnwys gweithiau o'r Tate, Amgueddfa Cymru ac eraill, mae Y Gymru Ramantaidd yn edrych ar sut y cafodd artistiaid eu hysbrydoli gan Gymru yn ystod cyfnod o newid gwleidyddol a diwydiannol. Fe wnaeth artistiaid Rhamantaidd gan gynnwys William Havell a Paul Sandby gyfleu tirluniau a thraddodiadau nodedig y genedl am y tro cyntaf, tra bod gwaith Neo-Ramantiaid diweddarach fel John Piper a Graham Sutherland yn adlewyrchu'r newidiadau mawr a fu yn yr 20fed ganrif mewn ffordd bwerus.
Mae gwrthrychau o gasgliadau CofGâr, gan gynnwys printiau, cyfnodolion a chanllawiau teithio, yn rhoi cipolwg pellach ar sut ysbrydolodd Cymru artistiaid ac awduron.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydym yn falch iawn o groesawu Y Gymru Ramantaidd i Amgueddfa Sir Gâr. Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd weithiau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, gan adrodd stori tirluniau a threftadaeth Cymru mewn ffordd sy'n hygyrch ac yn ddiddorol i bawb.”
Dywedodd Sophia Weston, Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Garfield Weston:
Wrth i Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund ddathlu ei 10fed flwyddyn yn 2026, rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r arddangosfa hon, a fydd yn dod â gweithiau celf gwerthfawr sydd wedi'u hysbrydoli gan y dirwedd leol i gynulleidfaoedd yn Sir Gâr am y tro cyntaf."
Argymhellir rhodd o £5 i'r rheiny sy'n ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa a'r oriau agor ar wefan CofGâr neu drwy ddilyn CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.
