Y Cyngor yn nodi Diwrnod Aer Glân 2026
1 diwrnod yn ôl
Heddiw (dydd Iau 18 Mehefin 2026) mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Diwrnod Aer Glân sy'n cefnogi aer glân ac ansawdd aer i drigolion a'r miliynau o ymwelwyr â'r sir.
Mae Tîm Llygredd y Cyngor Sir hefyd yn gweithio gydag ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin, gyda disgyblion blwyddyn pump yn dysgu am lygredd aer, ei effaith ar iechyd a'r camau bach y gallwn ni i gyd eu cymryd i wella'r aer rydyn ni'n ei anadlu.
Ymunodd y tîm hefyd mewn partneriaeth â chwmnïau theatr i gyflwyno perfformiadau hwyliog ac addysgiadol, gyda mwy na 1,000 o blant yn cymryd rhan.
Mae'r Cyngor Sir hefyd yn parhau i sicrhau bod trigolion yn gallu mwynhau amgylchedd naturiol hardd y Sir gyda llwybrau cerdded a beicio yn cael eu diweddaru yn ogystal â phrosiectau newydd mawr fel Llwybr Dyffryn Tywi sef llwybr cerdded a beicio nodedig 13 milltir o hyd trwy Ddyffryn Tywi sy'n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
“Mae'r gwaith cadarnhaol a wneir gan Dîm Llygredd Cyngor Sir Caerfyrddin i addysgu pobl ifanc am y newidiadau bach y gallwn eu gwneud ar gyfer Sir Gaerfyrddin iachach yn dangos i'r genhedlaeth nesaf fanteision enfawr aer glanach i'n hiechyd corfforol a meddyliol.
Trwy ennyn diddordeb disgyblion mewn ffyrdd creadigol a rhyngweithiol, mae Diwrnod Aer Glân yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i feddwl am ansawdd aer a'r rôl rydyn ni i gyd yn ei chwarae wrth greu cymunedau glanach ac iachach.”
Mae'r gwaith addysgol a wneir yn cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Rheoli Ansawdd Aer Lleol.
