Y Cyngor yn cyflwyno hysbysiad statudol i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro

2 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn dilyn cyfnod ymgynghori gyda'r ddwy gymuned ysgol.

Bydd y cyfnod hysbysiad statudol yn dechrau ym mis Mehefin 2026.

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn cyfnod ymgynghori ffurfiol gyda disgyblion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a chymuned ehangach y ddwy ysgol rhwng 16 Ionawr a 2 Mawrth 2026.

Mae'r ddwy ysgol wedi'u nodi yn seiliedig ar feini prawf yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024:

  • Nifer fach iawn o ddisgyblion ym mhob ysgol
  • Nifer uchel o leoedd gwag
  • Nifer fawr o ddisgyblion sy'n byw o fewn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill
  • Amcanestyniadau disgyblion yn awgrymu mai bach yw'r tebygolrwydd o nifer y disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf
  • Diffyg yn y gyllideb neu ragweld diffyg yn y gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad anodd heddiw i gyhoeddi hysbysiadau statudol i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro. Fodd bynnag, mae pwysau ariannol sylweddol a nifer fach o ddisgyblion ynghyd â nifer uchel o leoedd gwag yn y ddwy ysgol wedi gorfodi'r Cabinet i ddod i'r casgliad hwn.”