Y Cyngor yn cefnogi busnesau Sir Gâr i ddechrau arni, tyfu a ffynnu

2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau newydd a busnesau presennol ledled Sir Gaerfyrddin, ac mae cyllid grant, mathau eraill o gymorth ariannol ac arweiniad ymarferol ar gael, sydd werth miliynau i fusnesau yn y sir.

Trwy amryw ffrydiau cyllido, gall y cymorth sydd ar gael alluogi busnesau i wella eu hapêl trwy ddiweddaru blaenau siopau, helpu perchnogion/deiliaid prydlesi i sicrhau bod eiddo gwag yn cael defnydd unwaith eto, creu mannau deniadol, rhoi hwb i fusnesau newydd, cefnogi twf ac annog busnesau i ymchwilio i ynni adnewyddadwy.

Drwy gynllun grant Ymyrraeth Landlordiaid Allanol Cyngor Sir Caerfyrddin, sicrhaodd busnes Davies and Davies Furniture leoliad gwych yn ddiweddar yng nghanol tref Caerfyrddin, sef rhif 4 Heol Awst.  Mae lleoliad newydd y busnes ger Maes Myrddin yn fan amlwg a phrysur, a bydd yn ategu'r lleoliad presennol yn Drefach Felindre.

Mae'r cwmni wedi bod yn masnachu am dros 60 mlynedd, ac mae'r cymorth hwn wedi caniatáu i Davies and Davies Furniture dyfu'r busnes wrth barhau i ddarparu ystod o ddodrefn, pethau storio ac ategolion.

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae'r cynllun grant Ymyrraeth Landlordiaid Allanol wedi sicrhau bod 15 eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor drwy brydlesi tymor byr, gan roi i entrepreneuriaid a busnesau bach y cyfle i roi cynnig arni yng nghanol y dref. Mae'r cynllun yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r cymorth ariannol sydd ar gael hefyd yn cynnwys:

Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant | Cronfa gyfalaf gwerth £1m i gefnogi adfer asedau hanesyddol, gwella profiad ymwelwyr a gwella cyfleusterau i ymestyn y tymor twristiaeth.

Cronfa Adnewyddu Canol Trefi | Wedi'i thargedu at ddarparu cyfleoedd i berchnogion eiddo/deiliaid prydlesi yng nghanol trefi fywiogi blaenau eu siopau.

Cronfa Bywiogrwydd Canol y Dref | Grantiau o £5,000 i £50,000 ar gael i berchnogion eiddo/deiliaid prydlesi ddod ag eiddo gwag ar y llawr gwaelod yn ôl i ddefnydd masnachol.

Cronfa Murluniau Canol Trefi | Hyd at £2,000 o gyllid ar gael i gefnogi murluniau ar adeiladau amlwg i greu mannau deniadol, dathlu hunaniaeth leol, a chynyddu ymwelwyr.

Bwrsariaeth Lansio Busnes | Creu cyfleoedd i entrepreneuriaid lleol brofi eu syniadau busnes cyn creu busnes newydd yn ffurfiol.

Cronfa Cychwyn Busnes | Cefnogi busnesau newydd drwy grantiau rhwng £1,000 a £50,000.00. 

Grant Twf Busnes | Ar gyfer busnesau sydd am dyfu ac ehangu, mae'r cyllid hwn yn cefnogi prynu offer gan gynnwys cerbydau arbenigol, deunyddiau marchnata a chyfarpar.

Grant Ymchwil a Datblygu | Grantiau hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau arloesi, ymchwil a datblygu a/neu ddiogelu at y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Arloesi Leol

Grant Ynni Adnewyddadwy i Fusnesau | Grantiau hyd at £30,000 tuag at gost y systemau pŵer a gwresogi adnewyddadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Drwy gyllid a chymorth ymarferol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi busnesau ledled y sir i ddechrau arni, tyfu a ffynnu. 

Gan fod ystod eang o ffrydiau cyllido gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gael yn y sir, gallai pob math o fusnesau elwa ar y cymorth sydd ar gael, ac rwy'n annog busnesau i fynd i wefan y Cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael."

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ymyrraeth Landlordiaid Allanol a chyllid arall ar gyfer canol trefi, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.