Wythnos i fynd tan Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ym Mharc Gwledig Pen-bre

12 awr yn ôl

Dim ond wythnos sydd i fynd hyd nes bydd Parc Gwledig Pen-bre gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026, gyda thrigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ddod draw a dangos eu cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Bydd y digwyddiad AM DDIM (codir ffioedd parcio) yn croesawu ymwelwyr ddydd Sadwrn 27 Mehefin o 11:30am gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau gan gynnwys gorymdaith ac awyren Atlas C.1 A400M yn hedfan heibio am 12:30pm, yn syth ar ôl y seremoni agoriadol.

Bydd Tîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol yn perfformio am 3:45pm (yn dibynnu ar y tywydd), gyda thorfeydd yn barod i weld arddangosfa yn cynnwys symudiadau cwympo rhydd syfrdanol ar gyflymder o hyd at 120mya.
Bydd y diwrnod allan i'r teulu hwn hefyd yn cynnig amrywiaeth o stondinau gan gynnwys arddangosiadau/efelychwyr y Lluoedd Arfog, ardal filwrol, ardal deuluol, bwyd a diod, Cyngor Sir Caerfyrddin gan gynnwys gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif a Scarlets Llanelli.

Bydd yr Ardal Filwrol a'r Ardal Deuluol yn fywiog a rhyngweithiol ac yn llawn hwyl gydag atyniadau i bob oedran gan gynnwys cyfleoedd i weld cerbydau milwrol go iawn yn agos, archwilio arddangosfeydd o unedau'r Lluoedd Arfog, ymgysylltu â stondinau recriwtio rhyngweithiol a gweithgareddau "rhoi cynnig arni".

Yn dilyn y seremoni agoriadol, bydd amserlen lawn o’r llwyfan yn diddanu ymwelwyr drwy gydol y dydd a gyda'r nos, gyda chyngerdd am ddim yn y parc rhwng 5:30pm a 7:30pm sy'n cynnwys cerddoriaeth gan Newshan, a pherfformiadau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o Loud Applause Rising Stars, gan gynnwys Lauren Williams a Liam J Edwards (a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Y Llais ar S4C yn 2025) a'r prif berfformiwr fydd Samuel Wyn Morris o'r West End. Gyda nifer cyfyngedig o seddi ar gael, anogir ymwelwyr i ddod â blancedi a/neu gadeiriau os oes modd. 
Mae mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond bydd taliadau parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre yn berthnasol i ymwelwyr sydd heb hawlen barcio flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu Cymuned y Lluoedd Arfog, cefnogwyr, trigolion Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr i Ddiwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Mae'r digwyddiad hwn sy'n croesawu teuluoedd yn ddiwrnod allan perffaith, gydag awyren arbennig yn hedfan heibio ac arddangosfa gyffrous gan Dîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol yn ogystal â stondinau arddangos a noson llawn adloniant.
Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb, gan gynnwys y Lluoedd, Llywodraeth Cymru a chymunedau'r Lluoedd Arfog ledled y sir sy'n ein helpu i drefnu'r digwyddiad hwn."

I gael rhagor o wybodaeth neu archebu tocyn am ddim, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r tri llu arfog – y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol – yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau cefnogol. Mae'r digwyddiad hefyd wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda'r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog.