Trigolion Sir Gâr yn cael eu hannog i 'Olchi a Gwasgu' eu deunyddiau ailgylchu
12 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Gâr yn annog trigolion i gymryd ychydig o gamau syml i gefnogi ailgylchu glân o ansawdd uchel a helpu i leihau halogiad fel rhan o'i ymgyrch Golchi a Gwasgu.
Gofynnir i aelwydydd rinsio eitemau y gellir eu hailgylchu i gael gwared ar unrhyw fwyd neu hylif sydd dros ben cyn eu rhoi yn y bagiau ailgylchu glas, ac i wasgu neu fflatio eitemau lle bo modd. Mae'r camau syml hyn yn helpu i leihau halogiad, yn arbed lle mewn bagiau ailgylchu, ac yn sicrhau y gellir prosesu deunyddiau yn fwy effeithiol.
Gellir fflatio llawer o eitemau, fel poteli plastig a chartonau, yn ddiogel. Fodd bynnag, nid oes angen gwasgu popeth. Dylid rinsio tuniau a chaniau, er enghraifft, ond nid oes angen eu fflatio.
Anogir trigolion i wylio'r fideo a'i rannu i godi ymwybyddiaeth.
Trwy olchi a gwasgu'r hyn y gallant, gall trigolion gefnogi ailgylchu o ansawdd uchel ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae ailgylchu yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud bob dydd, ac mae newidiadau bach mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth mawr . Trwy gymryd eiliad i rinsio eitemau a gwasgu'r hyn y gallwch, rydych chi'n helpu i leihau halogiad, arbed lle yn eich bagiau ailgylchu, a chefnogi ailgylchu o ansawdd uchel ledled Sir Gaerfyrddin.”
I gael gwybod rhagor, ewch i Ganllaw Ailgylchu A-Y y Cyngor i weld pa eitemau gallwch chi eu rhoi yn eich bagiau glas.
