Sir Gâr yn croesawu Ras Gyfnewid Baton y Brenin ar y ffordd i Glasgow 2026

4 diwrnod yn ôl

Cynhaliodd Cyngor Sir Caerfyrddin Ras Gyfnewid Baton y Brenin ddydd Sadwrn 20 Mehefin, gan groesawu cymunedau, athletwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r sir fel rhan o daith swyddogol Gemau'r Gymanwlad yn y DU.

Yn ystod y digwyddiad, cariwyd y Baton drwy chwe lleoliad allweddol, gan arddangos talent chwaraeon, ysbryd cymunedol ac ymrwymiad Sir Gâr i ffyrdd egnïol o fyw. Daeth trigolion ynghyd i gefnogi Cludwyr y Baton a chymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau ac arddangosiadau sy'n cynrychioli pob un o'r deg camp yng Ngemau'r Gymanwlad.

Dechreuodd y Ras Gyfnewid yn Canolfan Pentre Awel, Llanelli, lle rhoddwyd sylw i bêl-rwyd, nofio, bocsio a gymnasteg artistig, cyn parhau i Academi Codi Pwysau Llanelli a Chanolfan Hamdden Dyffryn Aman. Oddi yno, aethpwyd i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin, Clwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin, cyn gorffen yn Felodrom Caerfyrddin, lle roedd beicio yn rhan o gymal olaf y dydd.

Chwaraeodd Cludwyr y Baton o bob rhan o Sir Gâr, gan gynnwys pobl ifanc, gwirfoddolwyr, athletwyr lleol a hyrwyddwyr cymunedol ran ganolog, sy'n adlewyrchu rhwydweithiau cymunedol cryf a diwylliant gweithredol y sir.

Roedd y Ras Gyfnewid hefyd yn gyfle i lansio cystadleuaeth ysgolion "Dylunio Baton" y sir, gan annog pobl ifanc i fod yn greadigol a dod i wybod am hunaniaeth ddiwylliannol fel rhan o ddathliadau ehangach Gemau'r Gymanwlad. Llongyfarchiadau i Lilly Mai, Robyn a Lois - oll o Ysgol Llandeiloam gyrraedd rownd derfynol dyluniad y baton. 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

"Rydyn ni'n falch o fod wedi cynnal Ras Gyfnewid Baton y Brenin yma yn Sir Gâr. Daeth y digwyddiad â chymunedau ynghyd a rhoddodd gyfle i arddangos yr ystod o gyfleusterau chwaraeon a chyfleoedd sydd ar gael ledled y sir.
Mae wedi helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithgarwch corfforol a chyfranogiad cymunedol, wrth gynnig cyfle i breswylwyr fod yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol arwyddocaol."

Mae'r Ras Gyfnewid yn rhan o'r cyfnod cyn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow eleni, lle bydd pob un o'r 74 Baton o bob rhan o'r Gymanwlad yn cael eu haduno yn y Seremoni Agoriadol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch i'w bartneriaid, ei wirfoddolwyr, ei sefydliadau lleol a'i drigolion am eu cefnogaeth wrth gyflwyno'r digwyddiad.