Rhybudd oren am wres wedi'i gyhoeddi i Sir Gaerfyrddin

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog preswylwyr i gymryd gofal ychwanegol gan fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres eithafol, o ddydd Mercher 24 Mehefin tan hanner nos ddydd Iau 25 Mehefin.

Mae preswylwyr yn cael eu cynghori i fod yn effro i symptomau gorflinder gwres, gan gynnwys dadhydradu, cyfog a blinder, yn ogystal â llosg haul, ac i gadw llygad ar gymdogion hŷn, ffrindiau, a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Er mwyn helpu i ddiogelu staff sy'n gweithio yn yr amodau eithafol hyn, bydd criwiau casglu gwastraff yn dechrau eu rowndiau yn gynt nag arfer, gan ddechrau am 5am yn hytrach na 6am. Mae'r newid hwn yn berthnasol i bob casgliad, gan gynnwys gwastraff gardd a gwastraff hylendid/cewynnau. Rydyn ni’n gofyn i breswylwyr roi eu gwastraff allan y noson cyn y casgliad neu sicrhau ei fod yn barod cyn 5am ar y diwrnod.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pobl i addasu eu trefn ddyddiol i ymdopi â'r gwres:

  • Cadwch allan o'r haul lle bo modd
  • Gwisgwch eli haul SPF 30+
  •  Gorchuddiwch eich corff â het, sbectol haul a dillad llac
  •   Yfwch ddigonedd o ddŵr
  • Peidiwch â nofio mewn dŵr agored i oeri – gall sioc dŵr oer effeithio ar eich corff, hyd yn oed ar ddiwrnod poeth

Mae pobl sydd am oeri yn y môr, llynnoedd neu afonydd yn cael eu hatgoffa i fod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â dŵr agored ac i ofalu am eu diogelwch eu hunain a gofalu am eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr gymryd gofal yn ystod y rhybudd gwres oren ac i ddiogelu eu hunain ac eraill. Gall tymheredd uchel gael effaith sylweddol ar iechyd pobl, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i niwed. Cofiwch yfed digon o ddŵr, osgoi adegau poethaf y dydd a chadw llygad ar ffrindiau, teulu a chymdogion y gall fod arnynt angen cymorth ychwanegol."