Rhaglen flynyddol i dorri porfa wrth ymyl y ffordd ar waith

3 diwrnod yn ôl

Mae criwiau priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau eu rhaglen flynyddol i dorri porfa wrth ymyl y ffordd er mwyn cynnal diogelwch ar y ffyrdd ond ar yr un pryd, gwarchod cynefinoedd pwysig.

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fioamrywiaeth, bydd y gwaith torri eto yn cael ei wneud yn ddetholus. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, bydd rhyw fetr o borfa yn cael ei dorri lle mae twf yn effeithio ar ddiogelwch cerddwyr a'r gallu i weld yn glir. Bydd llawer o ymylon yn cael eu gadael heb eu torri tan yn ddiweddarach yn y tymor er mwyn caniatáu i flodau gwyllt flodeuo a hadu.

Ar draws llawer o Sir Gaerfyrddin, ni fydd porfa a blodau gwyllt wrth ymyl y ffordd yn cael eu cyffwrdd a hynny er mwyn cefnogi bywyd gwyllt lleol a phryfed peillio hanfodol.

Dim ond lle mae pryderon iechyd a diogelwch amlwg y bydd torri'n digwydd yn y mannau hyn, yn enwedig mewn parthau 20-40mya mewn trefi a phentrefi.

Mae'r Cyngor hefyd yn atgoffa preswylwyr mai tirfeddianwyr cyfagos sy'n gyfrifol am berthi a choed ffin. Dylid archwilio a chynnal a chadw'r rhain yn rheolaidd, oherwydd gall llystyfiant sydd wedi gordyfu effeithio ar ddiogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig wrth gyffyrdd a throeon lle mae gwelededd yn hanfodol.

Mae pryfed peillio yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal ecosystemau drwy alluogi planhigion gwyllt i atgenhedlu, sy'n sail i lawer o gynefinoedd. Maen nhw hefyd yn hanfodol i gynhyrchu amrywiaeth eang o gnydau.

Mae rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt hefyd yn darparu cyfleoedd i breswylwyr, grwpiau cymunedol ac ysgolion gymryd rhan, gan ddarparu manteision i natur a phobl.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

"Mae gan y Cyngor Sir gyfrifoldeb i gynnal diogelwch ar y ffyrdd i bob defnyddiwr, sicrhau gwelededd, a darparu lle diogel i gerddwyr lle nad oes troedffyrdd, ac ar yr un pryd diogelu bioamrywiaeth.

Mae ein rhaglen torri porfa wrth ymyl y ffordd yn cael ei rheoli'n ofalus i gyrraedd y cydbwysedd hwn. Rydym yn canolbwyntio ar dorri'r hyn sy'n angenrheidiol yn unig.  Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, bydd rhyw fetr o borfa yn cael ei dorri lle mae'n effeithio ar welededd neu ddiogelwch gan ganiatáu i ardaloedd eraill ffynnu a chefnogi rhywogaethau brodorol."

I gael rhagor o wybodaeth a syniadau ar sut i gefnogi cadwraeth leol, ewch i dudalennau gwe bioamrywiaeth y Cyngor.