Masnachwyr Iau 2026 yn tynnu sylw at entrepreneuriaid ifanc ledled Sir Gaerfyrddin

8 awr yn ôl

Cafodd disgyblion ysgol gynradd gyfle i arddangos eu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o Gystadleuaeth Masnachwyr Iau 2026, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman rhwng 13 a 15 Mai.

Cymerodd cyfanswm o 19 o ysgolion cynradd ran dros y tri diwrnod marchnad, gan wneud hon yn un o'r cystadlaethau mwyaf llwyddiannus hyd yma. Llwyddodd disgyblion i wneud mwy na £8,500 mewn gwerthiannau a thros £6,400 mewn elw.

Mae safon cyfranogiad yn parhau i godi, ac mae ysgolion yn dangos sgiliau cynllunio busnes cryf ac yn llwyddiannus yn mynd â syniadau o'r cysyniad i'r farchnad.

Yng Nghaerfyrddin, rhagorodd Ysgol Trimsaran, gan sicrhau gwobr y Stondin Orau a'r Elw Uchaf er gwaethaf cystadleuaeth gref.

Yn Llanelli, roedd y gystadleuaeth yn arbennig o agos. Dim ond tri phwynt (allan o 108 posibl) oedd rhwng y tair ysgol orau yn y categori Stondin Orau. Ysgol Penygaer gafodd y brif wobr, a chafodd Ysgol y Ffwrnes yr elw uchaf ar draws y tri digwyddiad.

Yn Rhydaman, enillodd Ysgol Penygroes wobr am y Stondin Orau. Er bod ysgol arall wedi dechrau'n gryf gyda gwerthiannau cyflym, fe wnaethon nhw werthu mas yn gynnar ar ôl tanamgyfrif lefelau stoc, felly enillodd Ysgol Pen-y-groes y wobr Elw Uchaf hefyd.

Rhoddwyd tlysau yn ystod pob digwyddiad, ac roedd cyflawniadau'r holl ddisgyblion yn wych. Er gwaethaf amodau tywydd heriol, dangosodd cyfranogwyr wytnwch a chreadigrwydd, gan wneud o mwyaf o bob cyfle i ddenu cwsmeriaid a gwerthu'r eitemau.

Hoffai'r trefnwyr ddiolch i staff addysgu ledled y sir am eu cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gymryd rhan mewn profiad sy'n addysgiadol ac yn bleserus. Diolch hefyd i wahoddedigion anrhydeddus, partneriaid a busnesau lleol am gefnogi a beirniadu'r digwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg:

Unwaith eto, mae'r Gystadleuaeth Masnachwyr Iau wedi dangos talent, creadigrwydd a phenderfyniad anhygoel ein pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'n ysbrydoledig gweld disgyblion yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd go iawn, o gynllunio a gwaith tîm i ymgysylltu â chwsmeriaid ac ymwybyddiaeth ariannol. Mae'r rhain yn brofiadau gwerthfawr a fydd o fudd iddyn nhw ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Hoffwn longyfarch pob ysgol a gymerodd ran a diolch i'r athrawon, partneriaid a threfnwyr sy'n parhau i wneud y fenter hon mor lwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Diolch yn arbennig i Gyngor Tref Llanelli, Partneriaeth Gymunedol Llanelli, Siambr Fasnach Llanelli, Cyngor Tref Caerfyrddin, Siambr Fasnach Caerfyrddin, Foothold Cymru, The Secret Plant House, Stori Cymru a Tea Traders. Darparwyd offer ar gyfer y digwyddiadau gan Green Top Markets.