Lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Ysgol Heol Goffa

14 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i symud Ysgol Heol Goffa yn Llanelli a chynyddu nifer y lleoedd i 150 o ddisgyblion.

Cytunodd y Cabinet ar yr ymgynghoriad yn ei gyfarfod ddydd Llun 1 Mehefin 2026, ac mae'r ymgynghoriad yn dilyn penderfyniad blaenorol y Cabinet i ddatblygu ysgol newydd er mwyn cynyddu nifer y lleoedd a bodloni'r galw a ragwelir.

Mae gan rieni, athrawon, disgyblion, llywodraethwyr yr ysgol a chymuned ehangach yr ysgol tan ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf i ddweud eu dweud drwy arolwg ar-lein neu'n ysgrifenedig at:

Mr Owain Lloyd, 
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, 
Neuadd y Sir, 
Rhiw'r Castell, 
Caerfyrddin, 
SA31 1JP.

Fel arall, mae modd anfon ymatebion drwy e-bost.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

"Lansio'r ymgynghoriad hwn yw'r cam nesaf tuag at Gyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Ysgol Heol Goffa newydd, a hynny ar gyfer 150 o ddisgyblion. 

Rydyn ni'n gofyn i gymuned yr ysgol ddweud eu dweud ar y cynigion hyn a helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu mwy o ddarpariaeth addysg i ddisgyblion ag Anawsterau Dysgu Difrifol (SLD) ac Anawsterau Dysgu Dwfn (PMLD) yn ardal Llanelli."