Gwahoddiad i breswylwyr ymuno â Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Llanelli
8 diwrnod yn ôl
Gwahoddir preswylwyr, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr busnesau yn Llanelli i wneud cais i ymuno â Bwrdd Cymdogaeth newydd a fydd yn helpu i lunio dyfodol eu hardal. Bydd y Bwrdd yn gwneud hyn drwy raglen fuddsoddi gwerth £20 miliwn a fydd yn para 10 mlynedd.
Bydd y rhaglen Balchder Bro yn Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar ardal tref Llanelli, gan gwmpasu rhannau o wardiau Bigyn, Elli, Lliedi, Tyisha a Glan-y-môr.
Yn dilyn penodi Stephen Donoghue yn Gadeirydd Annibynnol yn ddiweddar, mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu Bwrdd Cymdogaeth a fydd yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei harwain gan y gymuned ac yn darparu buddion ystyrlon yn yr hirdymor.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae'r rhaglen Balchder Bro yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol Llanelli ac yn gyfle gwych i bobl leol helpu i lunio twf a ffyniant eu cymunedau dros y blynyddoedd i ddod.
Rydym am sicrhau bod y rhaglen hon wir yn cael ei harwain gan y gymuned, ac mae hynny'n golygu clywed yn uniongyrchol gan y preswylwyr, y busnesau a'r sefydliadau sy'n adnabod yr ardal orau.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n caru Llanelli, ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth er gwell, gynnig ei hun a bod yn rhan o'r gwaith pwysig hwn.”
Dywedodd Stephen Donoghue, Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Cymdogaeth:
Mae'n fraint ac yn anrhydedd i mi wasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Llanelli. Mae'r rhaglen hon yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wneud newid ystyrlon a pharhaol yn ein cymunedau.
Rwyf wedi ymrwymo i greu Bwrdd sy'n gynrychioladol, yn gynhwysol ac wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gymuned, gan ddod â phreswylwyr, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol ynghyd fel partneriaid cyfartal.
Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Llanelli, dylanwadu ar benderfyniadau buddsoddi a chyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i greu cymdogaethau cryfach, mwy ffyniannus a mwy hyderus ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.”
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli:
Rydyn ni eisiau pobl sy'n gwneud, nid pobl sy'n siarad; pobl sy'n gallu arwain is-bwyllgorau ac sy'n gallu ysgogi a harneisio'r holl frwdfrydedd a syniadau da a'n helpu i droi hyn yn gynllun cydlynol. Yn bwysicaf oll, rydyn ni eisiau pobl sy'n caru Llanelli ac sy'n gwybod y gallwn wneud cymaint mwy o'n tref.”
I wneud cais, gofynnwch am becyn ymgeisio trwy anfon e-bost at balchderbro@sirgar.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ar 6 Gorffennaf.
