Ethol Iwan Griffiths yn is-etholiad ward Llangennech
5 awr yn ôl
Mae Iwan Griffiths – Plaid Cymru wedi cael ei ethol fel Cynghorydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer ward Llangennech.
Cynhaliwyd is-etholiad ddydd Iau 25 Mehefin 2026, yn dilyn ethol y cyn-gynghorydd Carmelo Colasanto yn Aelod o'r Senedd yn etholiadau diweddar y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae canlyniadau'r is-etholiad fel a ganlyn:
Iwan Griffiths – Plaid Cymru – 483
Jordan Sargent – Llafur Cymru – 338
Gavin Rashbrook – Reform UK – 283
Craig Griffiths – Ceidwadwyr Cymreig – 38
Sean Hogan – Annibynnol – 11
Michael Willis – Y Blaid Werdd – 8
Justin Griffiths – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – 7
28.15% oedd y ganran a bleidleisiodd.
