Dyfarnu gyrrwr didrwydded yn euog yn dilyn erlyniad gan y Cyngor

6 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i erlyn unigolyn am weithredu fel gyrrwr tacsi didrwydded ar lwybrau cludiant ysgol.

Yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 17 Ebrill 2026, cafwyd Mr David Rhydian Thomas, o Windy Corner Coaches, yn euog o gludo plant ysgol bum gwaith rhwng 1 Hydref ac 8 Hydref 2025. Canfuwyd bod Mr Thomas wedi gyrru cerbyd hurio preifat trwyddedig heb feddu ar y Drwydded Yrru Ddeuol angenrheidiol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

Clywodd y llys fod Mr Thomas wedi cael rhybudd ffurfiol o'r blaen ar 15 Hydref 2024 am yrru cerbyd trwyddedig heb feddu ar drwydded. Er gwaethaf hyn, cafodd rhagor o droseddau eu cyflawni.

Plediodd Mr Thomas yn euog drwy'r post. Cafodd ddirwy o £666 a gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £266 a chostau o £1,762.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin â chyfrifoldeb dros orfodaeth:

“Diogelwch plant a'r cyhoedd ehangach yw ein prif flaenoriaeth. Mae'n rhaid i yrwyr trwyddedig fodloni safonau llym sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu teithwyr, yn enwedig wrth gludo plant ysgol. Mae'r achos hwn yn rhoi neges glir ein bod ni'n cymryd achosion o dorri rheoliadau trwyddedu o ddifrif ac na fyddwn ni'n oedi cyn cymryd camau gorfodi lle bo angen.”

Mae Tîm Trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio i sicrhau bod yr holl yrwyr, cerbydau a gweithredwyr yn cydymffurfio'n llawn â gofynion cyfreithiol, gan helpu i ddiogelu teithwyr ledled y sir.