Dŵr | Still Waters yn dychwelyd i Channel 4 ar ôl ffilmio yn Sir Gâr

3 diwrnod yn ôl

Bydd Dŵr | Still Waters yn dychwelyd i Channel 4 ar ôl ffilmio ar draws Sir Gâr.

Cafodd y ddrama, sef dilyniant i raglen Y Golau | The Light in the Hall, ei ffilmio yn Sir Gâr, gan gynnwys ym mhentref ffuglennol Llanemlyn a'r cyffiniau. Gweithiodd y Cyngor yn agos gyda rheolwyr lleoliad a thimau cynhyrchu yn ystod y gwaith ffilmio i helpu i sicrhau proses ddidrafferth i breswylwyr, busnesau a'r criw cynhyrchu.

Daeth y prosiect ag ystod o fanteision i'r ardal leol, gan gynnwys galw cynyddol am lety, defnydd o wasanaethau lleol, a mwy o wariant mewn siopau a lleoliadau lletygarwch. Mae hefyd wedi helpu i dynnu sylw at dirweddau Sir Gâr, gan arddangos y sir i gynulleidfaoedd ledled y DU.

Mae gan y gyfres hefyd gysylltiad lleol cryf, gydag Oliver John, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, yn chwarae rhan arbennig. Mae'r fersiwn Gymraeg (Y Golau Dŵr) eisoes ar gael i'w gwylio ar S4C, a bydd y fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu ar Channel 4 ar 16 Mehefin am 9pm.

Mae Dŵr | Still Waters yn edrych ar sut y gwnaeth datblygiad cronfa ddŵr drawsnewid cymuned wledig, gan roi sylw i'r effaith hirdymor ar draws y cenedlaethau. Mae'r gyfres yn cynnwys cast adnabyddus, gan gynnwys Sian Reese-Williams, Mark Lewis-Jones, a Robert Glenister.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Roedden ni'n falch iawn o gefnogi cynhyrchiad Dŵr | Still Waters yma yn Sir Gâr. Mae cynnal prosiectau ffilm a theledu fel hyn nid yn unig yn rhoi hwb i'n heconomi leol, ond hefyd yn dangos harddwch a chymeriad ein sir i gynulleidfa eang. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld Sir Gâr ar y sgrin unwaith eto.”

Yn ystod y gwaith ffilmio, cafodd pob ymdrech ei wneud i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar gymunedau lleol, gan roi trefniadau mynediad a rheoli traffig ar waith lle bo angen. Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr a busnesau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth trwy gydol y cyfnod cynhyrchu.