Diwygio hysbysiad statudol a gyhoeddwyd ynghylch y bwriad i gau Ysgol Meidrim
10 awr yn ôl
Heddiw (19 Mehefin 2026), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi hysbysiad statudol newydd, yn unol ag Adran 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013, sy'n cynnwys mân ddiwygiad i'r un a gyhoeddwyd ar 16 Mehefin, yn cynnig cau Ysgol Meidrim.
Gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau cyn pen 28 diwrnod i'r dyddiad cyhoeddi tan 17 Gorffennaf 2026. Mae modd cyflwyno gwrthwynebiadau drwy lenwi'r arolygon ar-lein ar Ysgol Meidrim drwy anfon e-bost at MEPConsultations@sirgar.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:
Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
Neuadd y Sir
Caerfyrddin, SA31 1JP
Cafodd y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad statudol i Ysgol Meidrim ei gytuno yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Llun 1 Mehefin 2026.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd y cynnig yn dod i rym o 31 Rhagfyr 2026.
O 1 Ionawr 2027 ymlaen, cynigir bod disgyblion presennol Ysgol Meidrim yn mynychu Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Griffith Jones yn amodol ar ddewis y rhieni a threfniadau derbyn y Cyngor.
Cynigir hefyd, ar gyfer disgyblion yn y dyfodol o 1 Ionawr 2027 ymlaen, fod dalgylch Ysgol Gynradd Meidrim yn cael ei ailddynodi a'i gynnwys yn nalgylchoedd presennol Ysgol Hafodwenog, Ysgol Griffith Jones ac Ysgol Bancyfelin.
Mae Ysgol Meidrim wedi'i nodi yn seiliedig ar feini prawf hyfywedd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
