Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 yn dod i Ben-bre
1 diwrnod yn ôl
Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (27 Mehefin) ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae trigolion Sir Gâr ac ymwelwyr â hi yn cael eu hannog i ddod i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.
Bydd y digwyddiad AM DDIM (codir ffioedd parcio) yn cael ei gynnal yng Nghae Saethyddiaeth Parc Gwledig Pen-bre ac yn dechrau o 11:30am, a bydd rhaglen gyffrous gan gynnwys gorymdaith ac awyren Atlas C.1 A400m yn hedfan heibio am 12:30pm, yn syth ar ôl y seremoni agoriadol.
Gall ymwelwyr hefyd edrych ymlaen at berfformiad anhygoel gan Dîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol am 3:45pm (yn dibynnu ar y tywydd), sef arddangosfa sy'n cynnwys symudiadau cwympo rhydd syfrdanol ar gyflymder o hyd at 120mya.
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y digwyddiad, a bydd ystod eang o stondinau ac atyniadau gan gynnwys arddangosiadau ac efelychiadau y Lluoedd Arfog, ardal filwrol, parth teuluol, a dewis o fwyd a diod. Bydd gwasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin gan gynnwys Chwaraeon a Hamdden Actif a Scarlets Llanelli hefyd yn bresennol.
Bydd yr Ardal Filwrol a'r Ardal Deuluol yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld cerbydau milwrol go iawn yn agos, archwilio arddangosfeydd y Lluoedd Arfog, siarad â phersonél a chymryd rhan mewn gweithgareddau "rhoi cynnig arni".
I helpu pobl i gyrraedd y digwyddiad, bydd bws gwennol 16 sedd am ddim o ganol tref Llanelli (o'r safle bws gyferbyn â Neuadd y Dref) o 10am ac yn rhedeg bob awr tan 3pm. Hefyd bydd gwasanaeth o ganol tref Porth Tywyn (Sgwâr Neptune, SA16 0EP) o 10:30am a bydd yn rhedeg bob awr tan 3:30pm. Bydd teithiau dychwelyd yn rhedeg drwy gydol y dydd.
Bydd y gwasanaeth, sy'n cael ei ddarparu trwy garedigrwydd Dolen Teifi a Links, sef elusen iechyd meddwl yn Llanelli, yn dod i ben ar ôl y seremoni gloi, tua 4:30pm, ac ni fydd ar waith yn ystod y gyngerdd gyda'r hwyr.
Yn dilyn y seremoni agoriadol, bydd rhaglen lawn o adloniant ar y prif lwyfan drwy gydol y dydd, a chyngerdd gyda'r hwyr rhwng 5:30pm a 7:30pm. Yn y gyngerdd bydd cerddoriaeth gan Newshan, a pherfformiadau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o Loud Applause Rising Stars, gan gynnwys Lauren Williams a Liam J Edwards (a wnaeth gyrraedd rownd derfynol Y Llais ar S4C yn 2025) a'r prif berfformiwr fydd Samuel Wyn Morris o'r West End. Gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael, anogir ymwelwyr i ddod â blancedi neu gadeiriau.
Mae costau parcio yn berthnasol ym Mharc Gwledig Pen-bre i'r rheiny sydd heb hawlen flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i bersonél presennol y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cymuned y Lluoedd Arfog, cefnogwyr, trigolion ac ymwelwyr i Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Bydd y digwyddiad hwn, sy'n ddelfrydol i deuluoedd, yn ddiwrnod allan gwych, gydag awyren arbennig yn hedfan heibio ac arddangosfa gyffrous gan Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol, gweithgareddau ymgysylltu, a noson o adloniant byw.
Fel awdurdod rydyn ni'n falch o ddal Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Mae cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru 2026 yn gyfle i ni ddathlu sgiliau a gwydnwch ein Lluoedd Arfog yn ein gweithle a'n cymuned."
Mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r tri llu arfog – y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol – yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau cefnogol. Mae'r digwyddiad hefyd wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda'r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu tocyn am ddim, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
