Cyngor yn cytuno i ail-lunio'r ddarpariaeth addysg feithrin yn Rhydaman

14 diwrnod yn ôl

Yn ei gyfarfod o'r Cyngor Llawn heddiw (dydd Mercher 10 Mehefin 2026), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno ar gynigion i ail-lunio'r ddarpariaeth addysg feithrin yn ardal Rhydaman.

Bydd y newidiadau yn ymestyn ystod oedran Ysgol Bro Banw ac Ysgol Gymraeg Rhydaman o 4-11 i 3-11, yn ogystal â chau Ysgol Feithrin Rhydaman.

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghori â rhieni, llywodraethwyr, athrawon a chymuned ehangach yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

"Bydd y penderfyniad hwn heddiw yn moderneiddio'r ddarpariaeth addysg yn Rhydaman, ac yn golygu bydd disgyblion yn gallu dechrau mynychu Ysgol Bro Banw ac Ysgol Gymraeg Rhydaman yn dair oed. 
Bydd hyn yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i gyflwyno darpariaeth addysg fwy cytbwys yn Rhydaman, fel sy'n digwydd gydag ysgolion eraill ar draws Sir Gâr."

Daw'r cynigion hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth 2024 i ddileu'r polisi "Plant sy'n Codi'n 4 oed" o 1 Medi 2025, sy'n golygu y bydd plant yn hytrach yn dechrau addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.