Cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch y bwriad i gau Ysgol y Fro

3 diwrnod yn ôl

Heddiw (16 Mehefin 2026), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi hysbysiadau statudol, yn unol ag Adran 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013, yn cynnig cau Ysgol y Fro.

Gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau cyn pen 28 diwrnod i'r dyddiad cyhoeddi tan 14 Gorffennaf 2026. Mae modd cyflwyno gwrthwynebiadau drwy lenwi'r arolygon ar-lein ar Ysgol y Fro; drwy anfon e-bost at -MEPConsultations@sirgar.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:

Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
Neuadd y Sir
Caerfyrddin, SA31 1JP

Cafodd y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiadau statudol i Ysgol y Fro ei gytuno yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Llun 1 Mehefin 2026.

Os byddan nhw’n cael eu cymeradwyo, bydd y cynigion yn dod i rym o 31 Rhagfyr 2026.

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, cynigir bod disgyblion presennol Ysgol y Fro yn mynychu Ysgol y Dderwen, yn amodol ar ddewis y rhieni a threfniadau derbyn y Cyngor a bod dalgylch Ysgol y Fro yn cael ei ailddynodi a'i gynnwys yn nalgylchoedd presennol yr ysgolion canlynol: Ysgol Gynradd Llangynnwr, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Llanddarog, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Glanyfferi, Ysgol Gynradd Gwynfryn, Ysgol Gymraeg Gwenllian, Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ac Ysgol y Castell.

Mae Ysgol y Fro wedi'u nodi yn seiliedig ar feini prawf hyfywedd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.