Cyfleoedd cyffrous gan Gyngor Sir Caerfyrddin i raddedigion a phrentisiaid

5 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio cyfleoedd newydd sbon i raddedigion a phrentisiaethau i'r rhai sy'n barod i ddechrau eu gyrfa, ennill profiad yn y byd go iawn a gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Mae'r ystod eang o rolau sydd ar gael yn berffaith ar gyfer graddedigion prifysgol, y rhai sy'n gadael ysgol/coleg, neu unrhyw un sy'n edrych i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Mae cyfleoedd graddedigion yn cynnwys:

  • Cynllunydd Trafnidiaeth
  • Swyddog Gorfodi Materion Amgylcheddol
  • Syrfëwr Adeiladu (Tîm Cyflwr Stoc Eiddo)
  • Rheolwr Prosiect (Tîm Mân Waith Eiddo)  
  • Cyfrifydd
  • Traffig a Diogelwch Ffyrdd

Cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael:

  • Peiriannydd Sifil x2
  • Arolygydd Gwaith Stryd 
  • Technegydd Rheoli Traffig
  • Swyddog Caffael (Cynnal a Chadw Eiddo)
  • Cynnal a Chadw Eiddo
  • Cyllid
  • Cludiant Teithwyr

Mae sesiynau personol ac ar-lein yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mehefin, lle gall unrhyw un sydd â diddordeb ddod i wybod mwy: 

  • Dydd Mercher 10 Mehefin, 6pm i 7pm ar-lein drwy Teams
  • Dydd Iau 11 Mehefin, 1pm i 6pm yn Llyfrgell Llanelli
  • Dydd Llun 15 Mehefin, 1pm i 6pm yn Llyfrgell Caerfyrddin
  • Dydd Mercher 17 Mehefin, 1pm i 2pm ar-lein drwy Teams
  • Dydd Iau 18 Mehefin, 2pm i 6pm yn Llyfrgell Rhydaman 


Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae ein cyfleoedd i raddedigion a phrentisiaethau yn fodd i ddechrau gyrfa wych, lle gall ymgeiswyr llwyddiannus ennill wrth ddysgu, gyda chefnogaeth ac arweiniad yn cael ei ddarparu drwy'r amser. 

Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i sesiwn wybodaeth bersonol neu ar-lein lle bydd cyfle i gael cymorth ymgeisio, rhagor o wybodaeth a thrafodaethau gyda phrentisiaid a graddedigion blaenorol. 

P'un a ydych chi'n angerddol dros gynaliadwyedd, yn dwlu ar beirianneg, neu'n awyddus i weithio ym maes chyllid, mae rôl berffaith ar gael i chi!"

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.