Cam mawr ymlaen i gynlluniau ysgol newydd Heol Goffa ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet
2 diwrnod yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i ddechrau cyfnod ymgynghori ffurfiol i adleoli Ysgol Heol Goffa yn Llanelli a chynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol i 150 o ddisgyblion.
Cytunodd y Cabinet ar y penderfyniad hwn yn ei gyfarfod ddydd Llun 1 Mehefin 2026, ac mae'n dilyn penderfyniad blaenorol y Cabinet i ddatblygu ysgol newydd er mwyn cynyddu nifer y lleoedd a bodloni'r galw a ragwelir.>
Bydd yr ysgol newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (SLD) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD) yn ardal Llanelli. Mae gwaith ychwanegol eisoes yn digwydd i ateb y galw gan ddisgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn Llanelli drwy ddulliau eraill
Daw penderfyniad y Cabinet yn dilyn adolygiad annibynnol o addysg arbenigol yn ardal Llanelli, ac ymgynghoriad â chymuned ysgol Heol Goffa ar ôl cyhoeddi'r adolygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:
Mae cynlluniau i ddatblygu ysgol newydd i 150 o ddisgyblion ar gyfer Ysgol Heol Goffa wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw.
Mae hyn yn dilyn proses adolygu drylwyr ac ymgynghoriad gyda disgyblion, athrawon, rhieni a llywodraethwyr yn Heol Goffa sydd wedi ein galluogi ni i ddatblygu ffordd gynaliadwy ymlaen.
Byddwn nawr yn symud ymlaen tuag at gyfnod ymgynghori, sy'n rhoi cyfle i gymuned yr ysgol ddweud eu dweud ar y penderfyniad hwn."
