Busnesau lleol i elwa ar sioe deithiol cymorth busnes haf 2026 

1 diwrnod yn ôl

 
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cyfle gwerthfawr i fusnesau lleol gael cyngor arbenigol, cymorth ymarferol a chreu cysylltiadau newydd yn Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes Haf 2026. 

Cynhelir y digwyddiad hwn, sy'n rhad ac am ddim, ar 30 Gorffennaf 2026 yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i helpu busnesau i dyfu, i gryfhau cysylltiadau ac i fwrw golwg ar gyfleoedd newydd. 

Bydd y sioe deithiol yn dod ag ystod eang o wasanaethau'r Cyngor a chynghorwyr arbenigol at ei gilydd o dan yr un to, gan roi mynediad uniongyrchol i'r canllawiau sydd eu hangen ar fusnesau i ffynnu.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 9:45am a 4:00pm, a bydd sesiwn rhwydweithio amser brecwast yn cael ei chynnal o 8:30am i'r rhai sydd am fynychu. Mae'r sesiwn gynnar hon yn cynnig cyfle i bobl gysylltu â chyfoedion a chlywed gan y siaradwr gwadd James Owen o Stori Cymru, a fydd yn rhannu pa mor effeithiol yw adrodd straeon wrth adeiladu brandiau cryf, dilys. 

Trwy gydol y dydd, bydd mynychwyr yn gallu cael mynediad at gyngor rhad ac am ddim wedi'i deilwra ar draws ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys cyfleoedd ariannu, trwyddedu a chynllunio, deddfwriaeth wastraff, cymorth marchnata, a recriwtio trwy Gymunedau am Waith a Mwy. Bydd Tîm Twristiaeth y Cyngor hefyd ar gael i drafod ymgyrchoedd sydd ar y gorwel, cyfleoedd ffilmio, digwyddiadau busnes a gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am themâu marchnata 2026 a dulliau digidol gwell.  

Nodwedd allweddol y digwyddiad eleni yw'r gyfres o weithdai ymarferol sydd â'r nod o gryfhau presenoldeb digidol. Mae'r sesiynau'n cynnwys Beyond Posting:Building Better Social Media Engagement(Purple Dog), sy'n canolbwyntio ar ddatblygu dull mwy strategol a chynaliadwy o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a Gweithdy Proffil Busnes Google (Ranked & Ready), sy'n cynnig arweiniad ymarferol i ddefnyddio Google Search a Google Maps. 

Yn y prynhawn, bydd busnesau yn cael cyfle i drefnu sesiynau un-i-un gyda chydweithwyr y Cyngor yn ogystal ag arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys Rebecca Callaghan (Purple Dog) a Jordan Wilcox (Ranked & Ready). Bydd y sesiynau hyn yn cynnig cyngor wedi'i deilwra, cymorth busnes a chyfleoedd i wella presenoldeb ar-lein ac effeithiolrwydd marchnata. 
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

"Mae'r sioe deithiol hon yn ymwneud â chynnig cefnogaeth wirioneddol, ymarferol i fusnesau. O gyngor arbenigol i gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr, rydyn ni eisiau sicrhau bod busnesau'n cael y wybodaeth, yr hyder a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu." 


Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw drwy fynd i Cymorth Busnes Sir Gâr Business Support

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac fe'i hariannir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.