Wythnos Gweithredu Dementia: Canolfannau Hwb Sir Gâr yn cynnal sesiynau galw heibio am gymorth
5 diwrnod yn ôl
Dros Wythnos Gweithredu Dementia (18-24 Mai 2026), mae Ymgynghorwyr Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda sefydliadau partner i godi ymwybyddiaeth o ddementia a'r cymorth sydd ar gael yn y sir.
Drwy gydol yr wythnos, bydd gwybodaeth am gymorth a gwasanaethau lleol i ofalwyr neu'r rhai sy'n ceisio diagnosis iddyn nhw eu hunain neu i anwylyd ar gael rhwng 10:30am a 3pm ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth, 19 Mai – Hwb Caerfyrddin
- Dydd Iau, 21 Mai – Hwb Llanelli
- Dydd Gwener, 22 Mai – Hwb Rhydaman
Bydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn bresennol, ochr yn ochr â Nyrsys Admiral; Rhagnodwr Cymdeithasol/Cysylltu Sir Gâr; Ymddiriedolaeth Gofalwyr; Adferiad ac Age Cymru.
Does dim angen apwyntiad, dim ond galw heibio.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd:
“Dros Wythnos Gweithredu Dementia, rydyn ni'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill i sicrhau bod pawb y mae dementia yn effeithio arnyn nhw, boed yn uniongyrchol neu fel gofalwr, yn gwybod ble y gallan nhw gael help ac arweiniad.”
I'r rhai sy'n methu â dod i'r sesiynau galw heibio ar y dyddiadau hyn, mae cymorth a chyngor ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
