Newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gâr dros Ŵyl Banc y Gwanwyn

4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn atgoffa trigolion i wirio eu dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn, ddydd Llun 25 Mai.

Bydd yr holl gasgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer yr wythnos nesaf. 

Dyma pryd y bydd eich biniau’n cael eu casglu:

Diwrnod casglu arferol

Diwrnod casglu diwygiedig

Dydd Llun 25 Mai

Dydd Mawrth 26 Mai

Dydd Mawrth 26 Mai

Dydd Mercher 27 Mai

Dydd Mercher 27 Mai

Dydd Iau 28 Mai

Dydd Iau 28 Mai

Dydd Gwener 29 Mai

Dydd Gwener 29 Mai

Dydd Sadwrn 30 Mai

Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig. 

Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar eich diwrnod casglu diwygiedig. Cofiwch yr uchafswm o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.

Cofrestrwch i gael neges e-bost neu neges destun am ddim i'ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a bagiau du yma.

Os bydd unrhyw darfu ar wasanaethau, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y cyngor ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Mae trigolion yn cael eu hannog i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn rhoi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.

Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i rannu’r wybodaeth hon ag aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd efallai yn dibynnu ar eraill am ddiweddariadau a gwybodaeth.

Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor fel arfer ddydd Llun, 25 Mai. Gallwch weld eu horiau agor yma.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Gall Gwyliau Banc weithiau achosi dryswch o ran diwrnodau casglu biniau, felly rwy’n annog i drigolion gymryd eiliad i wirio’r amserlen ddiwygiedig a rhoi eu biniau mas ar y diwrnod cywir. Drwy cofio’r uchafswm o dri bag du yn ogystal â golchi a gwasgu deunydd ailgylchu, gallwn ni helpu i wneud yn siŵr bod casgliadau’n rhedeg yn esmwyth i bawb.”