Galw ar breswylwyr i fod yn wyliadwrus wrth i alwyr diwahoddiad gynyddu ar draws Sir Gâr

1 diwrnod yn ôl

Mae preswylwyr Sir Gâr yn cael eu hannog i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau am alwyr diwahoddiad ar draws y sir.

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn adroddiadau gan aelwydydd am unigolion yn curo ar ddrysau ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys gwaith atgyweirio cartrefi, glanhau tramwyfa, gwaith toi, tirweddu a gwaith cynnal a chadw arall. Mewn rhai achosion, mae galwyr wedi defnyddio tactegau gwerthu sy'n rhoi pwysau mawr ar bobl, wedi gwrthod gadael pan ofynnwyd iddynt wneud hynny, neu wedi honni ar gam eu bod yn gweithio "ar ran y cyngor".

Mae swyddogion yn atgoffa preswylwyr na fydd busnesau cyfreithlon yn rhoi pwysau ar unigolion i wneud penderfyniadau ar unwaith, ac y bydd staff y cyngor bob amser yn cario llun adnabod swyddogol ac yn rhoi amser i'w wirio.

Caiff preswylwyr eu cynghori i gymryd y rhagofalon canlynol:

  • Ceisiwch osgoi ymgysylltu â gwerthwyr ar garreg y drws - nid oes rhaid i chi siarad ag unrhyw un sy'n cyrraedd heb wahoddiad na phrynu wrthyn nhw
  • Peidiwch byth â chytuno i waith ar unwaith - mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn codi tâl gormodol neu'n gadael gwaith yn anghyflawn.
  • Cofiwch wirio prawf adnabod yn ofalus - bydd swyddogion dilys bob amser yn dangos prawf adnabod ac yn rhoi amser i chi ei wirio.
  • Rhowch wybod am weithgaredd amheus - mae hyn yn helpu Safonau Masnach i olrhain ac atal masnachwyr twyllodrus.
  • Cefnogwch gymdogion agored i niwed - mae preswylwyr hŷn yn aml yn cael eu targedu gan alwyr diwahoddiad.
  • Defnyddiwch gynlluniau masnachwyr dibynadwy - i gael tawelwch meddwl, anogir preswylwyr sy'n chwilio am fusnesau dibynadwy i ddefnyddio'r cynllun Prynu â Hyder, lle mae masnachwyr yn cael eu gwirio a'u cymeradwyo gan Safonau Masnach.

Rydym yn annog unrhyw un sy'n profi neu'n gweld gweithgaredd amheus ar garreg y drws i roi gwybod amdano i'r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n gweithio'n agos gyda Safonau Masnach.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Safonau Masnach: 

Rydyn ni'n pryderu wrth glywed am yr adroddiadau hyn am alwyr diwahoddiad yn defnyddio tactegau camarweiniol a bygythiol. Gall galwyr diwahoddiad fod yn berswadiol iawn, ond dylai preswylwyr gofio nad oes rhaid iddyn nhw ymgysylltu neu gytuno i unrhyw waith a gynigir yn y fan a'r lle. 
Rydyn ni'n arbennig o ymwybodol o'r effaith y gall hyn ei chael ar breswylwyr agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn. Byddwn i'n annog pawb i fod yn ofalus, cadw llygad am ffrindiau a chymdogion, a rhoi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus fel y gallwn weithredu."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Prynu â Hyder - Cyngor Sir Caerfyrddin