Ethol y Cynghorydd Giles Morgan yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin
11 awr yn ôl
Mae'r Cynghorydd Giles Morgan, aelod dros Ward Dyffryn y Swistir, wedi ei ethol i'r gadwyn swyddogol yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw, ddydd Mercher 20 Mai 2026.
Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Morgan deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, sef y Cynghorydd Dot Jones, gan ddiolch iddi am ei wasanaeth i'r Cyngor.
Y Cynghorydd Davies fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf, gyda'i wraig Mrs Claire Morgan fel ei gydymaith, a'i Is-gadeirydd fydd y Cynghorydd Betsan Jones, Aelod dros y Betws.
Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, dywedodd y Cynghorydd Giles Morgan, Cadeirydd y Cyngor:
Pleser o'r mwyaf yw cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ac edrychaf ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod."
Mae'r Cynghorydd Morgan wedi dewis Dementia UK a Bloodwise fel ei elusennau ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.
Mae'r Cynghorydd Mogan wedi bod yn Gynghorydd Sir ers 2004, yn Gadeirydd Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol y Cyngor ac yn rhan o'r Pwyllgor Craffu.
