Diwrnod Darganfod Digidol: Archwilio, Dysgu, Cysylltu
1 diwrnod yn ôl
Mae digwyddiad newydd yn dod i Sir Gar gyda'r nod o helpu trigolion a busnesau i fanteisio i'r eithaf ar y byd digidol.
Dyddiad: Dydd Sadwrn 13 Mehefin 2026, 10am-3pm
Lleoliad: Pentre Awel, Llanelli
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM sy'n agored i'r holl drigolion a busnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
Bydd y Diwrnod Darganfod Digidol, a gynhelir gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dod â phobl at ei gilydd i:
• Archwilio offer a gwasanaethau digidol sydd ar gael yn lleol.
• Dysgu sut y gall technoleg gefnogi gwaith, addysg a bywyd bob dydd.
• Cysylltu â sefydliadau sy'n cynnig cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol.
Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn dod â thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol ynghyd i ddarganfod ffyrdd ymarferol y gall technoleg fod o fudd i fywyd bob dydd. P'un a ydych chi'n chwilfrydig am realiti rhithwir, dyfeisiau clyfar yn y cartref, eisiau rhoi hwb i'ch sgiliau digidol, aros yn ddiogel ar-lein neu angen gwell cysylltedd, mae rhywbeth ar gael i chi.
Dyma gyfle i gael gwybod beth sy'n cael ei wneud i wella gwasanaethau band eang a ffonau symudol ar draws y rhanbarth a dysgu am yr opsiynau eraill a allai eich helpu i gael gwell cysylltiadau.
Ar y diwrnod, gall ymwelwyr fwynhau amserlen lawn o sgyrsiau diddorol, arddangosiadau byw, a sesiynau rhyngweithiol. Bydd arbenigwyr yn arddangos yr offer a'r technolegau digidol diweddaraf, wrth roi cyngor ymarferol ar gysylltedd a sgiliau ar-lein. Bydd yna hefyd ddigon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau, rhannu syniadau, a chael profiad ymarferol gyda datblygiadau arloesol a all wneud bywyd bob dydd yn haws ac yn fwy cysylltiedig.
Pwrpas Diwrnod Darganfod Digidol Sir Gar yw creu tirwedd ddigidol gynhwysol lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Ymunwch â ni am ddiwrnod o syniadau, ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu rhanbarth mwy craff a chysylltiedig.
I gael y manylion llawn a'r amserlen ar gyfer y diwrnod, ewch i'r wefan, neu sganiwch y côd QR i gael eich cyfeirio:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol: bandeang@sirgar.gov.uk
