Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol
18 diwrnod yn ôl
Cyllid ar gael i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd yn Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i wneud cais am gyllid drwy Gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio defnyddio tai gwag unwaith eto a chefnogi anghenion tai lleol.
Mae'r cynllun yn cynnig grantiau o hyd at £25,000 i helpu i adnewyddu cartrefi gwag cymwys, gan eu gwneud yn ddiogel, yn effeithlon o ran ynni ac yn barod i fyw ynddynt. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun cenedlaethol.
Er mwyn bod yn gymwys i gael y grant, rhaid i eiddo fod wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, fod wedi'i gofrestru fel preswylfa at ddibenion y dreth gyngor, a bod yn eiddo i'r ymgeisydd, neu yn y broses o gael ei brynu, ar adeg y cais. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddiannu'r eiddo fel eu prif breswylfa am o leiaf bum mlynedd ar ôl cwblhau'r gwaith.
Bydd ceisiadau am y cynllun yn cau ar 30 Medi 2026, er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i gau ceisiadau'n gynt os bydd y galw yn uchel neu os bydd y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddyrannu'n llawn. Rhaid i'r holl waith cymeradwy a ariennir drwy'r cynllun gael ei gwblhau erbyn 30 Medi 2027.
Rhaid cyflwyno pob cais yn uniongyrchol drwy borth ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddarparu ar ei ran gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Anogir preswylwyr sydd â diddordeb mewn ailddefnyddio eiddo gwag i wneud cais a manteisio ar y cyfle hwn i wella argaeledd tai ledled Sir Gaerfyrddin.
Sut i wneud cais: Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru:
https://www.llyw.cymru/gwneud-cais-am-grant-cartrefi-gwag
