Cyngor Sir Gâr yn llofnodi Siarter Twf i gefnogi'r Gymraeg yn y gweithle

19 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi llofnodi Siarter Twf TUC Cymru - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith, sy'n dangos ei ymrwymiad i weithio'n agos gydag undebau llafur, eu haelodau a'r holl weithwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu defnydd o'r Gymraeg ar draws ei weithlu.

Llofnodwyd y Siarter mewn digwyddiad llofnodi ffurfiol, gan dynnu sylw at y bartneriaeth gref rhwng y Cyngor fel cyflogwr a'i undebau llafur. Mae'r dull hwn o gydweithio yn ganolog i Siarter Twf, sy'n cael ei harwain a'i chefnogi gan TUC Cymru.

Mae llofnodi Siarter TWF yn atgyfnerthu ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Gymraeg, gyda'r Cyngor Sir yn ennill Cyflogwr Iaith Gymraeg ddwywaith ers 2019, yn fwyaf diweddar yn 2025. 

Mae Siarter Twf yn fframwaith ymarferol sy'n helpu cyflogwyr, staff ac undebau llafur i weithio gyda'i gilydd i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol lle mae staff yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Drwy lofnodi'r Siarter, mae'r Cyngor a'i undebau llafur yn cytuno i wneud y canlynol:

  • cefnogi staff sy'n siarad Cymraeg, sy'n dysgu Cymraeg, neu sydd am ddechrau defnyddio Cymraeg yn y gwaith
  • cydnabod y Gymraeg fel sgil gwerthfawr ac yn rhan arferol o fywyd gwaith
  • annog diwylliant cadarnhaol yn y gweithle lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel rhan o fywyd bob dydd

Mae'r Siarter hefyd yn ymrwymo'r Cyngor a'r undebau llafur i helpu staff i ddeall eu hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac i'w gwneud hi'n haws defnyddio'r Gymraeg mewn rolau bob dydd.

Mae TUC Cymru wedi chwarae rhan ganolog wrth gefnogi'r Cyngor a'i undebau llafur drwy gydol y broses, gan ddarparu arweiniad, arbenigedd a chefnogaeth ymarferol i sicrhau bod Siarter Twf yn cael ei gweithredu fel fframwaith ystyrlon a chynaliadwy ar gyfer newid diwylliannol hirdymor.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Gâr:

Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth Sir Gâr, ac rydyn ni eisiau i'n staff deimlo'n hyderus a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth ddefnyddio'r iaith fel rhan o'u bywydau gwaith bob dydd. Byddwn ni'n sicrhau bod staff yn cael yr offer, yr hyder a'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn y gwaith, boed hynny gyda chydweithwyr neu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

Mae llofnodi Siarter Twf yn dangos ein hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth â'n hundebau llafur i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn ein gweithleoedd. Mae hyn yn ymwneud ag ymgorffori'r Gymraeg yn ein diwylliant gwaith bob dydd ar draws Sir Gaerfyrddin a chefnogi staff i ddefnyddio'r iaith yn hyderus fel rhan o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu."

Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru:

Llongyfarchiadau i Gyngor Sir Gâr, Unsain, GMB ac Unite am ymrwymo i Siarter Twf a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu gweithle dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith. Mae gan undebau llafur rôl hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru, diogelu a hyrwyddo hawliau Cymraeg gweithwyr fel mater o degwch a chydraddoldeb a sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel heb ragfarn a barn. Mae defnyddio'r Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac ymarferol ac yn drysor y gallwn ni i gyd ddathlu ac ymfalchïo ynddo – yn y gwaith ac yn ein bywydau. Gall Twf helpu gyda chynllunio a sicrhau bod gweithleoedd dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn fannau lle gall pob gweithiwr ddefnyddio ei sgiliau dwyieithog.”

Dywedodd Unsain, Unite a GMB ar y cyd:

Fel canghennau undebau llafur, rydyn ni'n falch iawn o ymrwymo i Siarter Twf TUC Cymru a'i hegwyddorion, gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Gâr. Rydyn ni'n cefnogi staff Sir Gaerfyrddin sy'n siarad Cymraeg ac yn annog eraill i ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae Siarter Twf yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni i gyd gryfhau ein hymrwymiad i weithle dwyieithog – fel cyflogwr, aelodau undebau llafur, a gweithwyr, a bydd yn cefnogi ein cymunedau Cymraeg eu hiaith hefyd.”

Drwy lofnodi Siarter Twf, mae'r Cyngor yn ymuno â nifer cynyddol o gyflogwyr ledled Cymru sy'n cymryd camau ymarferol i gefnogi uchelgeisiau Cymraeg 2050 a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw yn y gweithle.

I gael rhagor o wybodaeth am Siarter Twf, ewch i'w gwefan.