Cefnogwch entrepreneuriaid ifanc Sir Gaerfyrddin ym Marchnadoedd Masnachwyr Iau ym mis Mai
2 diwrnod yn ôl
Gwahoddir trigolion ac ymwelwyr i ddangos eu cefnogaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Mai wrth iddyn nhw ymgymryd â'r her o redeg eu busnesau eu hunain am ddiwrnod.
Mae'r Digwyddiadau Marchnad Masnachwyr Iau yn fenter flynyddol a gyflwynir mewn partneriaeth i roi cyfle i ysgolion ledled y sir brofi sut beth yw masnachu mewn amgylchedd marchnad go iawn. Mae disgyblion yn gweithio mewn timau i gynllunio, cyllidebu, creu a gwerthu cynhyrchion i'r cyhoedd, gan ddatblygu sgiliau menter a bywyd gwerthfawr.
Mae'r digwyddiadau yn cael eu datblygu ar y cyd gan ystod o bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Partneriaeth Gymunedol Llanelli ac ysgolion lleol, a cheir cefnogaeth leol ym mhob tref i gyflawni hyn.
Bydd Digwyddiadau Marchnad Masnachwyr Iau 2026 yn cael eu cynnal yn:
- Canol Tref Caerfyrddin - Dydd Mercher, 13 Mai 2026
- Canol Tref Llanelli - Dydd Iau, 14 Mai 2026
- Canol Tref Rhydaman - Dydd Gwener, 15 Mai 2026
Eleni, bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan gref yn y digwyddiadau, gyda 13 ysgol yn cymryd rhan yn Llanelli, 6 yng Nghaerfyrddin, a 5 yn Rhydaman.
Bydd stondinau ger prif ardaloedd marchnad ym mhob tref, gan helpu i ddod â gweithgarwch a lliw ychwanegol i ganol y dref wrth i ddisgyblion roi eu syniadau busnes ar waith ac ymgysylltu â siopwyr lleol.
Bydd pob tîm ysgol yn cynllunio eu cynnyrch neu wasanaeth eu hunain, yn rheoli eu cyllideb ac yn cynnal eu stondin ar y diwrnod. Bydd disgyblion yn datblygu sgiliau allweddol gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rheoli arian ac ymgysylltu â chwsmeriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg:
Mae'r Digwyddiadau Marchnad Masnachwyr Iau yn rhoi cyfle gwych i'n pobl ifanc gael profiad uniongyrchol o redeg busnes. Mae cymryd rhan yn helpu disgyblion i fagu hyder, dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr a datblygu ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad. Mae bob amser yn ysbrydoledig gweld y creadigrwydd a'r brwdfrydedd maen nhw'n dod â nhw i ganol ein trefi, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r holl ysgolion sy'n cymryd rhan ym mis Mai."
