Arddangos pecynnau rheoli gwaedu sy’n gallu achub bywydau i ysgolion lleol yn Canolfan Pentre Awel

19 awr yn ôl

Cynhaliwyd digwyddiad cymunedol llwyddiannus yn Canolfan Pentre Awel ar 14 Mai, gan ddod â sefydliadau lleol a 40 o blant ysgol ynghyd i godi ymwybyddiaeth o becynnau rheoli gwaedu sy'n gallu achub bywydau. Gellir defnyddio’r pecynnau hyn mewn digwyddiadau mawr i atal neu reoli gwaedu cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Yn ystod y digwyddiad, aeth disgyblion a staff i arddangosiadau ymarferol yn dangos sut y gellir defnyddio’r pecynnau i reoli gwaedu difrifol mewn sefyllfaoedd brys. Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar fagu hyder, gwella ymwybyddiaeth, a thynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Fel rhan o'r fenter, derbyniodd pob ysgol becyn rheoli gwaedu am ddim ar gyfer eu safle. Gellir ail-lenwi'r pecynnau hyn yn rhad ac am ddim, gan sicrhau bod ysgolion yn gallu eu cadw'n llawn ac yn barod i'w defnyddio heb gost ychwanegol.

Dangosodd y digwyddiad ymrwymiad cryf i addysg a diogelwch cymunedol, gan sicrhau bod gan bobl ifanc a staff ysgol wybodaeth a sgiliau pwysig a allai achub bywydau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ac Oedolion, Cyng Jane Tremlett: 

Mae pecynnau rheoli gwaedu yn offer hanfodol y gellir eu defnyddio yn yr eiliadau cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Trwy addysgu ein pobl ifanc am sut a phryd i'w defnyddio, rydyn ni'n gwella diogelwch yn ein cymuned ynghyd â rhoi'r hyder a'r sgiliau i'r genhedlaeth nesaf weithredu mewn argyfwng.  Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i greu cymunedau mwy diogel a gwydn ledled y sir.

Dywedodd y trefnwyr fod y digwyddiad yn gam pwysig i gynyddu ymwybyddiaeth o becynnau rheoli gwaedu ar draws yr ardal ac yn gobeithio y byddai'n annog mwy o ysgolion a sefydliadau i gymryd rhan yn y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Rob Evans, Aelod dros ward Dafen a Felin-foel, a drefnodd y digwyddiad:

Oherwydd y rhodd garedig gan ddyn busnes lleol yn Llanelli, rydyn ni wedi llwyddo i gyflwyno pecynnau rheoli gwaedu difrifol i ysgolion cynradd yn Llanelli a'r cyffiniau. Y nod yw codi mwy o arian fel y gallwn ni gyflwyno'r pecynnau hyn i bob ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod pob ysgol yn ddiogel pe bai achos o waedu difrifol yn digwydd a thrwy hynny achub bywydau. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pob ysgol yn cael pecyn.

Mae'r fenter hon yn cael ei rhoi ar waith ar y cyd â Heartbeat Trust UK.