Agor Llwybr newydd Dyffryn Tywi yn swyddogol
10 awr yn ôl
Mae llwybr cerdded a beicio nodedig 13 milltir o hyd trwy Ddyffryn Tywi wedi cael ei agor yn swyddogol, gan nodi carreg filltir bwysig o ran teithio cynaliadwy a thwristiaeth yn Sir Gâr.
Mae Llwybr Dyffryn Tywi, sy'n dilyn llwybr hen reilffordd a gaewyd ym 1963, wedi cael ei gyflawni drwy fuddsoddiad o £16.7 miliwn gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â chyllid a chymorth gan Gyngor Sir Caerfyrddin a chontractwyr rhanbarthol allweddol.
Roedd y digwyddiad lansio swyddogol, a gynhaliwyd ddydd Gwener 15 Mai ar Fferm Bremenda Isaf yn ystod Mis Cenedlaethol Cerdded, wedi croesawu mwy na 70 o bobl a ddaeth ynghyd i ddathlu cwblhau'r llwybr rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd gweld Manon Lloyd, y cyn-feiciwr proffesiynol a chyn-bencampwr iau Ewrop, yn beicio i'r dathliad yng nghwmni plant Ysgol Gynradd Nantgaredig, gan arddangos hygyrchedd ac apêl gymunedol gref y llwybr. Roedd Lloyd, a fu'n cystadlu mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr gan gynnwys Taith Merched Prydain ac sydd bellach yn gweithio fel cyflwynydd ar TNT Sports yn darlledu digwyddiadau beicio merched a chyd-gyflwynydd podlediad Occurring Femmes wedi ychwanegu tipyn o ysbrydoliaeth i'r achlysur.
Mynychwyd y digwyddiad gan Anna McMorrin, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, a Huw Bryer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Materion Domestig a Thwf Rhanbarthol, a'r Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â chynrychiolwyr lleol a phartneriaid y prosiect.
Cafodd y cynllun ei gyflawni mewn partneriaeth â chontractwyr gan gynnwys T Richard Jones Ltd., Tregaron Trading Services, Walters Group, Evan Pritchard Contractors Ltd., a Thîm Gweithredol Gwasanaethau Priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r llwybr eisoes yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr, gan gynnig llwybr diogel a phrydferth trwy un o dirweddau mwyaf eiconig Cymru a chryfhau'r cysylltiadau rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn fuddsoddiad trawsnewidiol yn nyfodol Sir Gâr. Mae'n gwella twristiaeth yn ein sir hardd, yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol ac yn annog ffyrdd iachach, mwy cynaliadwy o grwydro'r ardal."
Ychwanegodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â chysylltu cymunedau. Drwy gysylltu Caerfyrddin a Llandeilo drwy lwybr diogel a hygyrch, rydyn ni’n creu ased parhaol a fydd o fantais i breswylwyr ac ymwelwyr am genedlaethau i ddod."
Dywedodd Anna McMorrin, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn ychwanegiad gwych i'r rhan brydferth hon o Gymru. Bydd y llwybr yn adnodd arbennig, gan gysylltu Caerfyrddin a Llandelio drwy lwybr uniongyrchol, a galluogi trigolion lleol ac ymwelwyr i gael mynediad at wasanaethau a lletygarwch a mwynhau'r dirwedd. O gefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu i hybu twristiaeth leol, bydd gwaddol economaidd y llwybr yn parhau am flynyddoedd i ddod."
Ers agor y rhan gyntaf ym mis Ebrill 2025, mae'r llwybr wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel cyrchfan boblogaidd, gyda cherddwyr, beicwyr a theuluoedd yn defnyddio'r llwybr yn helaeth. Mae ei lwyddiant wedi parhau i dyfu, gan gynnal Parkrun yn ddiweddar a ddenodd fwy na 200 o redwyr ac atgyfnerthu ei rôl fel atyniad bywiog ar gyfer hamdden cymunedol. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau cyffrous yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan gynnwys hanner marathon a gŵyl gerdded.
Disgwylir i Lwybr Dyffryn Tywi chwarae rhan allweddol wrth roi hwb i'r economi ymwelwyr, cefnogi teithio llesol, a chryfhau cysylltiadau rhwng Caerfyrddin a Llandeilo am genedlaethau i ddod.
