Pythefnos Gofal Maeth 2026 – Dyma yw Maethu

4 awr yn ôl

Ar draws Sir Gâr a Chymru, mae cannoedd o ofalwyr maeth yn agor eu cartrefi i roi cariad, sefydlogrwydd a gofal i blant a phobl ifanc nad ydyn nhw'n gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol. Fodd bynnag, mae angen mwy o ofalwyr maeth ar frys yn lleol i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael ei baru â'r cartref cywir i ddiwallu ei anghenion unigol. 

Rhwng 11 a 24 Mai, bydd Maethu Cymru Sir Gâr yn cefnogi Pythefnos Gofal Maeth, dan arweiniad cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu. Mae'r ymgyrch flynyddol yn codi ymwybyddiaeth o effaith anferthol maethu, yn diolch i ofalwyr maeth am eu hymroddiad ac yn annog mwy o bobl i ystyried maethu ar gyfer eu hawdurdodau lleol.

Mae'r thema eleni, 'Dyma yw Maethu', yn tynnu sylw at realiti bob dydd maethu a'r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth yn ei wneud ym mywydau plant. Mae'n dathlu'r sgiliau, yr ymrwymiad a'r tosturi y mae gofalwyr maeth yn ei ddangos, yn aml mewn amgylchiadau heriol.

Trwy gydol Pythefnos Gofal Maeth, bydd lleisiau o bob rhan o'r gymuned faethu yn cael eu rhannu. I ofalwyr maeth, mae hyn yn aml yn golygu cydnabod yr eiliadau bach ond ystyrlon – helpu plentyn i ddysgu ymddiried eto, ei gefnogi yn ystod y broses o fynd i leoliad ysgol newydd, neu addasu eu gofal i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn.

Nod yr ymgyrch yw dangos beth yw maethu mewn gwirionedd. Trwy rannu profiadau go iawn, mae Maethu Cymru Sir Gâr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ynghylch pam mae'n rhaid gwerthfawrogi a chefnogi gofalwyr maeth yn briodol i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau plant.

Dywedodd Gill Adams, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, rydyn ni am gydnabod ymrwymiad anhygoel ein gofalwyr maeth ac amlygu'r effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael bob dydd trwy gynnig cartrefi sefydlog a gofalgar yn eu cymunedau lleol. Rydyn ni hefyd yn annog mwy o bobl i ystyried maethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr er mwyn galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."

Dywedodd Sarah Thomas, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu:

Mae angen mwy o ofalwyr maeth ar frys ar y DU. Bob blwyddyn, rydyn ni'n colli mwy o ofalwyr nag yr ydyn ni'n eu recriwtio, ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, byddwn ni'n annog pobl i ystyried maethu gan ddweud diolch yn fawr i'n gofalwyr maeth presennol am bopeth maen nhw'n ei wneud.
Fodd bynnag, mae cadw gofalwyr maeth presennol yr un mor bwysig â recriwtio rhai newydd. Mae angen newid brys o fewn y system faethu i sicrhau ei bod yn gynaliadwy i ofalwyr maeth a'r plant maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Byddwn ni'n galw ar y llywodraeth i wrando ar ofalwyr maeth ledled y DU ac i helpu i adeiladu system lle maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Diolch i bawb sy'n ein helpu i godi ymwybyddiaeth o faethu yn ystod Pythefnos Gofal Maeth."

Does dim angen i chi fod yn ofalwr maeth i gefnogi Pythefnos Gofal Maeth. Trwy ddilyn Maethu Cymru Sir Gâr ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu cynnwys yr ymgyrch, gallwch chi helpu i rannu'r neges a chodi ymwybyddiaeth o'r angen am ofalwyr maeth lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am Bythefnos Gofal Maeth, ewch i: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/get-involved/foster-care-fortnight

Mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod rhagor am faethu yn Sir Gâr yn cael ei annog i gwrdd â thîm Maethu Cymru Sir Gâr yn un o'u digwyddiadau gwybodaeth sy'n cael eu cynnal yn fuan. Mae modd gweld manylion am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn fuan ar draws Sir Gâr yn: https://www.sirgar.llyw.cymru/gwasanaethaur-cyngor/gwasanaethau-i-blant-a-theuluoedd/maethu/digwyddiadau/