Newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gâr dros Ŵyl Banc Calan Mai
3 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa trigolion i wirio eu dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu cyn Gŵyl Banc Calan Mai, ddydd Llun 4 Mai.
Bydd yr holl gasgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer yr wythnos nesaf.
Dyma pryd y bydd eich biniau’n cael eu casglu:
|
Diwrnod casglu arferol |
Diwrnod casglu diwygiedig |
|
Dydd Llun 4 Mai |
Dydd Mawrth 5 Mai |
|
Dydd Mawrth 5 Mai |
Dydd Mercher 6 Mai |
|
Dydd Mercher 6 Mai |
Dydd Iau 7 Mai |
|
Dydd Iau 7 Mai |
Dydd Gwener 8 Mai |
|
Dydd Gwener 8 Mai |
Dydd Sadwrn 9 Mai |
Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig.
Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar eich diwrnod casglu diwygiedig. Cofiwch yr uchafswm o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.
Cofrestrwch i gael neges e-bost neu neges destun am ddim i'ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a bagiau du yma.
Os bydd unrhyw darfu ar wasanaethau, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y cyngor ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Mae trigolion yn cael eu hannog i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn rhoi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.
Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i rannu’r wybodaeth hon ag aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd efallai yn dibynnu ar eraill am ddiweddariadau a gwybodaeth.
Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor fel arfer ddydd Llun, 4 Mai. Gallwch weld eu horiau agor yma.
Dywedodd Cyfarwyddwr Lle, Seilwaith a Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin, Ainsley Williams:
Hoffwn ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad yn ystod cyfnod gŵyl y banc. Mae gwirio eich diwrnod casglu diwygiedig a rhoi eich biniau allan ar amser yn helpu ein criwiau i ddarparu gwasanaethau mor effeithlon â phosibl.”
