Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch Ysgol Gynradd Tre Ioan ar gydnabyddiaeth Ymarfer Adferol Cenedlaethol

27 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch Ysgol Gynradd Tre Ioan ar ennill cydnabyddiaeth genedlaethol fel Sefydliad Adferol Cofrestredig gan y Cyngor Cyfiawnder Adferol (RJC), gan ei gosod ymhlith tair ysgol yn unig yn y DU sydd yn meddu ar y statws hwn ar hyn o bryd.

Mae'r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr ysgol i ymgorffori ymarfer adferol ar draws pob agwedd ar fywyd yr ysgol, gan gynnwys cymorth ymddygiad, perthnasoedd, cynhwysiant, llesiant ac ymgysylltu â theuluoedd.

Mae'r wobr yn dilyn proses asesu drylwyr dan arweiniad y Cyngor Cyfiawnder Adferol, a werthusodd ethos adferol yr ysgol, polisïau, hyfforddiant staff ac ymarfer o ddydd i ddydd gyda disgyblion a theuluoedd. Mae cofrestru nid yn unig yn cydnabod arfer da, mae hefyd yn cydnabod cysondeb, adfyfyrio ac ymrwymiad hirdymor i werthoedd adferol.

Yn Ysgol Gynradd Tre Ioan, mae ymarfer adferol yn sail i sut mae perthnasoedd yn cael eu meithrin, sut mae heriau'n cael eu datrys, a sut mae cymuned yr ysgol yn gweithio gyda'i gilydd. Roedd y broses gofrestru hefyd yn gyfle gwerthfawr i'r ysgol fyfyrio ar ymarfer, dathlu cryfderau a nodi blaenoriaethau ar gyfer cam nesaf ei thaith adferol.

Dywedodd Laura Reynolds, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Tre Ioan:

Mae cyflawni'r gydnabyddiaeth o ddod yn Sefydliad Adferol Cofrestredig yn foment falch i'n cymuned ysgol. Mae'n cydnabod ymroddiad ein dysgwyr, ein staff a'n teuluoedd wrth ymgorffori gwerthoedd adferol sy'n hyrwyddo parch, cynhwysiant a pherthnasoedd cadarnhaol ar draws ein hysgol.”

Dywedodd Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydym yn falch iawn o Ysgol Gynradd Tre Ioan am gyflawni Statws Sefydliad Adferol Cofrestredig gyda'r Cyngor Cyfiawnder Adferol.
Mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn adlewyrchu ymrwymiad cryf yr ysgol i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cynhwysiant a llesiant, ac i ymgorffori ymarfer adferol fel rhan ganolog o fywyd yr ysgol bob dydd.
Mae cyflawniad Ysgol Gynradd Tre Ioan yn cyd-fynd yn agos â'n blaenoriaethau ledled Sir Gaerfyrddin i gefnogi amgylcheddau dysgu meithringar a chynhwysol lle mae plant yn cael eu cefnogi i ffynnu'n academaidd ac yn emosiynol.”

Ychwanegodd Jim Simon, Prif Swyddog Gweithredol y Cyngor Cyfiawnder Adferol:

Mae cyflawni Statws Sefydliad Adferol Cofrestredig yn garreg filltir arwyddocaol. Mae'n dangos bod ymarfer adferol yn Ysgol Gynradd Tre Ioan nid yn unig yn cael ei wneud â bwriadau da, mae hefyd wedi'i ymgorffori, yn adlewyrchu ac yn cyd-fynd â'r safonau yr ydym yn eu disgwyl o waith adferol o ansawdd uchel. Mae'r statws hwn yn cydnabod ymrwymiad cyfunol cymuned yr ysgol i adeiladu diwylliant parchus, cynhwysol lle mae perthnasoedd yn ganolog i ddysgu a llesiant."

Mae Ysgol Gynradd Tre Ioan yn credu bod y gydnabyddiaeth yn cefnogi'n gryf flaenoriaethau lleol a chenedlaethol o ran cynhwysiant, ymddygiad, presenoldeb a llesiant emosiynol. Mae'r ysgol yn awyddus i rannu dysgu, cyfrannu at rwydweithiau ehangach a chefnogi lleoliadau addysg eraill sydd â diddordeb mewn datblygu diwylliannau adferol.

Mae digwyddiad dathlu i nodi'r cyflawniad yn cael ei drefnu ar hyn o bryd, gyda rhagor o fanylion i'w rhannu cyn bo hir.