Cau rhan o'r A484 ym Mronwydd dros nos, 8-9 Mai 2026
2 diwrnod yn ôl
Bydd yn rhaid cau rhan o'r A484 ym Mronwydd dros nos er mwyn gwneud gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd.
Mae angen cau'r ffordd dros dro er mwyn diogelu defnyddwyr ffordd a'r gweithlu. Bydd y gwaith yn digwydd dros nos o 6pm ddydd Gwener 8 Mai 2026 tan 6am ddydd Sadwrn 9 Mai 2026, gan osgoi'r adeg pryd mae'r ffordd ar ei phrysuraf yn ystod y dydd.
Bydd gwyriad â chyfeiriadau llawn ar waith tra bydd y ffordd ar gau. I draffig sy'n teithio tua'r de, bydd y gwyriad ar hyd yr A484 i Saron, yr A486 i gylchfan Pont-tyweli, y B4336 i Lanllwni, yr A485 i Gaerfyrddin, ac yna'r A485 i gylchfan Francis Well, cyn ailymuno â'r A484 i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau. Bydd y gwyriad i'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.
Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin ddiolch i'r trigolion, y busnesau a'r defnyddwyr ffordd am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad tra bo'r gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud. Y cyngor i yrwyr yw cynllunio eu taith ymlaen llaw, caniatáu rhagor o amser lle bo hynny'n bosibl, a dilyn y gwyriadau.
