Y Cyngor yn paratoi i gadw Sir Gaerfyrddin yn symud y gaeaf hwn
21 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i baratoi ar gyfer effeithiau posibl tywydd yr hydref a'r gaeaf. Mae timau wedi bod yn gweithio yn y cefndir drwy gydol yr haf ac i mewn i'r hydref i sicrhau bod criwiau'n gallu mynd i'r afael â sefyllfaoedd heriol a chadw'r rhwydwaith priffyrdd yn ddiogel.
Mae tîm ymroddedig y Cyngor Sir o yrwyr lorïau graeanu wedi cael hyfforddiant, mae’r lorïau graeanu ac offer fel erydr eira wedi'u gwasanaethu ac mae teithiau prawf wedi'u cynnal ar hyd ein llwybrau graeanu. Mae offer gwasgaru halen hefyd wedi'u graddnodi i sicrhau eu bod yn gwasgaru halen ar y gyfradd gywir ar gyfer cyflwr y ffordd, mae storfeydd graean wedi'u hail-lenwi ac mae biniau graean wedi'u gwirio a'u hail-lenwi lle bo angen.
Bydd swyddogion yn parhau i edrych ar y rhagolygon bob dydd tan fis Ebrill i benderfynu ar y camau a’r driniaeth graean briodol dros nos ac i mewn i bob bore o ystyried y tywydd.
Mae timau Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir hefyd wedi adolygu eu rhaglenni a’u trefniadau wrth gefn ar gyfer y gaeaf i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu lle bynnag y bo modd pan fydd y tywydd yn heriol.
Ochr yn ochr â graeanu, clirio eira ac ymateb i lifogydd yn ystod tywydd garw, mae Criwiau Priffyrdd yn ymateb yn rheolaidd i goed a changhennau sydd wedi cwympo sy'n effeithio ar y ffordd gerbydau. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr sydd wedi cael hyfforddiant llif gadwyn yn gwneud gwaith clirio lle bo hynny'n briodol, gyda chefnogaeth contractwyr arbenigol pan fydd angen adnoddau ychwanegol.
Mae archwiliadau diogelwch arferol ar hyd priffyrdd hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac yn dilyn tywydd garw, gan fonitro a chymryd camau i reoli coed sydd wedi'u difrodi a materion eraill lle bo hynny'n briodol. Fodd bynnag, cyfrifoldeb tirfeddianwyr yw rheoli a chynnal a chadw coed mewn perchnogaeth breifat.
Yn dilyn seminarau diweddar ynghylch parodrwydd cymunedau a gynhaliwyd gan y Cyngor Sir, mae cymunedau yn cael eu hannog i fod yn barod ac i ystyried eu perygl llifogydd, pa fesurau amddiffyn rhag llifogydd y gallai fod eu hangen arnynt, nodi mannau lle gallai dŵr ddod i mewn ac adolygu'r eitemau hanfodol y gallai fod eu hangen arnynt mewn argyfwng.
I gael cyngor ac arweiniad, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol i berchnogion eiddo ar baratoi ar gyfer llifogydd, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Gall pobl hefyd gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, lle mae timau'n gweithio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ragweld a monitro llifogydd a rhybuddio amdanynt. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gofrestru.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Bydd ein criwiau yn parhau i flaenoriaethu digwyddiadau brys yn ystod amodau anodd, gan gynnwys llifogydd ar y briffordd, coed sydd wedi cwympo, damweiniau traffig ffyrdd, cau ffyrdd, a materion diogelwch hanfodol fel draeniau wedi'u rhwystro, cwlferi wedi'u rhwystro a thyllau peryglus yn y ffyrdd.
Er bod ein criwiau yn gwneud eu gorau glas i helpu preswylwyr yn ystod amodau anodd, ni all y Cyngor Sir roi sicrwydd y bydd bagiau tywod yn cael eu dosbarthu ac rydyn ni'n annog pobl i ystyried eu risg a pharatoi ymlaen llaw, lle bo hynny'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r mesurau a allai weithio orau ar gyfer eu hamgylchiadau, gan nad bagiau tywod yw'r ateb mwyaf effeithiol bob amser.”
