Y Cyngor yn diolch i breswylwyr Sir Gaerfyrddin wrth gwblhau wythnos gyntaf y casgliadau ailgylchu newydd
3 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch i'r trigolion am eu cefnogaeth a'u hamynedd, wrth i'r gwasanaeth Ailgylchu Ar Wahân newydd helpu i wella ansawdd y deunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Diolch i bawb sydd wedi croesawu'r casgliadau newydd a rhannu adborth yn ystod yr wythnos gyntaf. Mae eich cefnogaeth a'ch amynedd yn ein helpu ni i wneud y newid hwn gyda'n gilydd. Wrth i bobl barhau i addasu i'r gwasanaeth ailgylchu newydd, mae ein criwiau wedi nodi rhai pethau syml gall preswylwyr eu gwneud i helpu i sicrhau bod casgliadau'n digwydd yn ddidrafferth, a bod deunyddiau yn cael eu hailgylchu mor effeithlon â phosib."
Pethau allweddol i'w cofio ar ôl wythnos gyntaf y casgliadau
1. Y gwahaniaeth rhwng y SACH GOCH Y GELLIR EI HAILDDEFNYDDIO a'r BAG COCH UNTRO
Un o'r materion sydd wedi codi amlaf yw deall y gwahaniaeth rhwng y sach goch y gellir ei hailddefnyddio a'r bag coch untro.
Mae'r bagiau coch untro ar gyfer plastigion meddal yn unig, gan gynnwys bagiau bara, bagiau siopa, bagiau bwyd wedi'i rewi, pecynnau creision, deunydd lapio poeth, pacedi bach a deunydd pecynnu hyblyg arall. Unwaith mae'n llawn, dylid rhoi'r bag coch wedi'i glymu y tu mewn i'r sach goch y gellir ei hailddefnyddio, yn barod ar gyfer y casgliad.
Ar gyfer cartonau, plastigion a metelau ailgylchadwy eraill y mae'r sach goch y gellir ei hailddefnyddio, gan gynnwys caniau diod, tuniau bwyd, potiau iogwrt, potiau hufen, basgedi ffrwythau a llysiau, cartonau a hambyrddau ffoil glân. Dylai trigolion roi'r eitemau hyn yn rhydd yn y sach goch y gellir ei hailddefnyddio, ynghyd ag unrhyw fagiau coch untro sy'n llawn plastigion meddal.
2. Dylid rhoi papur brown yn y sach oren ar gyfer cardbord
Mae'r criwiau casglu wedi sylwi bod papur brown a phecynnu parseli yn cael eu rhoi yn y sach las ar gyfer papur.
Er bod modd ailgylchu'r deunyddiau hyn, dylid eu rhoi yn y sach oren gyda'r cardbord.
Dim ond ar gyfer papur fel llythyrau, papurau newydd, cylchgronau ac amlenni gwyn y dylid defnyddio'r sach las.
Mae papur brown a phecynnu parseli yn cael eu hystyried yn ddeunyddiau cardbord, a dylid eu hailgylchu gyda'r cardbord. Mae gwahanu'r deunyddiau hyn yn gywir yn helpu i wella ansawdd yr ailgylchu, ac yn sicrhau bod rhagor o ddeunyddiau'n gallu cael eu hailgylchu'n llwyddiannus.
3. Ni ddylech roi pob math o wydr yn y bocs du
Atgoffir trigolion mai dim ond jariau a photeli gwydr ddylai gael eu rhoi yn eu bocs ailgylchu gwydr.
Ar gyfer eitemau fel gwydrau yfed, llestri Pyrex, fasys, gwydr ffenestr a gwydr wedi'i dorri, ni allant gael eu hailgylchu drwy'r gwasanaeth casglu gwydr o ymyl y ffordd, gan eu bod wedi'u gwneud o wahanol fathau o wydr. Dylid mynd â'r eitemau hyn i Ganolfan Ailgylchu, neu eu lapio'n ddiogel a'u rhoi yn eich bag du. Mae lapio gwydr sydd wedi torri mewn papur newydd neu rolyn cegin, neu roi dau fag o'i amgylch, yn helpu i ddiogelu criwiau rhag cael eu hanafu.
4. Tagiau ailgylchu halogedig
Caiff trigolion eu hatgoffa i roi'r deunyddiau cywir yn y sach, y bag, y bocs neu'r cynhwysydd cywir.
Lle daw'r criwiau o hyd i eitemau anghywir, efallai fyddant yn gadael tag neu sticer i esbonio sut dylid cyflwyno'r deunydd ailgylchu yn y dyfodol. Bydd angen i bobl dynnu'r eitemau anghywir allan a didoli'r deunyddiau yn gywir cyn eu casgliad nesaf. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na chaiff ailgylchu sy'n cynnwys deunyddiau anghywir ei gasglu hyd nes bod y broblem wedi'i datrys.
Mae hyn yn berthnasol i'r holl gasgliadau ailgylchu ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ardaloedd sydd dal ar y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) a'r rhai sydd wedi newid i'r gwasanaeth Ailgylchu Ar Wahân newydd.
Mae gosod y deunyddiau cywir yn y cynhwysydd cywir yn helpu i leihau halogiad, i wella ansawdd yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu, ac i sicrhau bod rhagor o ddeunyddiau'n gallu cael eu hailgylchu'n llwyddiannus.
5. Atodi'r sach ar gyfer batris gan ddefnyddio'r Velcro yn unig
Er bod y gwasanaeth ailgylchu batris eisoes yn boblogaidd, rhaid atgoffa trigolion na ddylent glymu eu sach ar gyfer batris i sach ailgylchu, na rhoi cwlwm yn y sach.
Yn hytrach, dylid sticio'r sach ar gyfer batris gan ddefnyddio'r Velcro a ddarperir yn unig.
Ni ddylid byth rhoi sachau batris y tu mewn i sachau neu focsys ailgylchu eraill, oherwydd gallai batris sydd wedi'u difrodi achosi tanau os ânt i'r rhan anghywir o'r cerbyd casglu.
6. Ailgylchu/Gwastraff heb ei gasglu: Sut i roi gwybod am hyn
Atgoffir trigolion na ddylid rhoi gwybod am ailgylchu/gwastraff sydd heb ei gasglu cyn 2pm ar eu diwrnod casglu, oherwydd mae'r casgliadau'n gallu digwydd unrhyw bryd rhwng 6am a 2pm.
Wrth i griwiau a phobl y sir addasu i'r gwasanaeth newydd, mae'n bosibl aiff peth amser cyn i'r rowndiau casglu ddod i arfer â'u trefniadau newydd. Mae'r criwiau casglu yn gweithio oriau hirach er mwyn cwblhau eu rowndiau a lleihau unrhyw darfu ar y gwasanaeth wrth i'r newidiadau hyn ddod i rym. Cyn rhoi gwybod am ailgylchu/gwastraff sydd heb ei gasglu, gofynnir i drigolion fwrw golwg ar dudalen we Tarfu ar Gasgliadau Gwastraff y Cyngor, rhag ofn bod unrhyw wybodaeth arni am oedi i'r gwasanaeth.
Os nad oes sôn ar y dudalen am unrhyw darfu, ac os yw'r ailgylchu neu'r gwastraff wedi'i gyflwyno'n gywir, gallwch roi gwybod o 2pm ar y diwrnod casglu tan 4pm ar y diwrnod gwaith nesaf, naill ai ar-lein neu drwy ffonio 01267 234567.
Gall trigolion ddarllen Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff y Cyngor i gael manylion llawn yma.
Mae'r Cyngor hefyd yn atgoffa trigolion os yw eu casgliad bagiau du cyntaf yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau ar 9 Tachwedd neu 16 Tachwedd, gallant roi hyd at bedwar bag du mas fel trefniant untro yn unig, i helpu gyda'r newid i'r gwasanaeth newydd.
O'r wythnos sy'n dechrau ar 23 Tachwedd, bydd y terfyn arferol o dri bag du fesul casgliad yn berthnasol.
Wrth i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd gael ei gyflwyno, mae trigolion yn cael eu hannog i wirio eu diwrnodau casglu, a gofyn am gyngor os nad ydynt yn siŵr ble ddylai eitem fynd. I wirio eich diwrnod casglu, cofrestru i gael e-bost neu neges destun atgoffa am ddim, a chael arweiniad ynghylch y gwasanaeth newydd, ewch i'n gwefan.
Rhannwch yr arweiniad hwn â'ch teulu, ffrindiau a chymdogion nad ydynt o bosibl yn mynd ar-lein yn rheolaidd, i helpu i'w paratoi nhw hefyd ar gyfer eu casgliadau.
