Y Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn
1 awr yn ôl
Unwaith eto, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn 2026, a gynhelir ddydd Mercher, 25 Tachwedd ac a ddilynir gan 16 Diwrnod o Weithredu.
Mae thema eleni, 'Mae'n Cymryd Pawb', yn atgoffa pawb fod ganddynt ran i'w chwarae wrth atal trais yn erbyn menywod a merched. Drwy herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol a hyrwyddo parch a chydraddoldeb yn ein bywydau bob dydd, gallwn ni i gyd helpu i wneud gwahaniaeth. Gallwch ddysgu rhagor drwy ymweld â thudalen ymgyrch y Rhuban Gwyn 2026.
Bydd baneri'r Rhuban Gwyn yn hedfan yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a neuaddau tref Llanelli a Rhydaman. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo ar noson 25 Tachwedd i ddangos cefnogaeth.
Bydd posteri'r Rhuban Gwyn yn cael eu harddangos ar sgriniau digidol mewn arosfannau bysiau ledled y sir, a bydd fideo'r Rhuban Gwyn yn cael ei ddangos yn llyfrgelloedd, Canolfannau Hwb, canolfannau hamdden y Cyngor Sir ac ym Mhentre Awel.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Sir Gaerfyrddin dros Gydlyniant Cymunedol:
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn nodyn atgoffa pwysig fod cyfrifoldeb ar bawb i atal trais yn erbyn menywod a merched. Mae thema eleni, 'Mae'n Cymryd Pawb', yn tynnu sylw at y ffaith y gallwn ni i gyd wneud ein rhan drwy herio agweddau niweidiol, hyrwyddo parch a chydraddoldeb, a chefnogi cymunedau mwy diogel. Rydyn ni'n falch o gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn a sefyll gyda'n gilydd yn ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched."
Y Rhuban Gwyn yw prif elusen y DU sy'n gweithio i atal trais dynion yn erbyn menywod a merched. Mae'n gweithio gydag unigolion, gweithleoedd a chymunedau i herio'r agweddau a'r ymddygiadau a all wneud trais yn bosibl ac i feithrin y gynghreiriaeth sy'n helpu i'w atal.
Er y gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, cyfrifoldeb pawb yw atal trais yn erbyn menywod a merched. Gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth greu cymunedau mwy diogel lle caiff pawb eu trin â pharch.
