Sir Gaerfyrddin yn nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Wythnos Genedlaethol Diogelu (9-13 Tachwedd) drwy dynnu sylw at y cyfrifoldeb ar y cyd i amddiffyn a chefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion a allai fod mewn perygl o niwed.

Drwy gydol yr wythnos, mae'r Cyngor Sir yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelu ac yn pwysleisio'r neges bod "Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb".

Mae hyn yn cynnwys lansio'r adroddiad Drwy'r Drysau, sef prosiect ymchwil sy'n cynnwys mwy na 200 o bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, i ddeall presenoldeb mewn ysgolion yn well drwy leisiau a phrofiadau byw plant a phobl ifanc. Mae'r arddangosfa Fy Mhrofiad Byw yn cyd-fynd â lansiad yr adroddiad. Mae'r arddangosfa hon yn tynnu sylw at y cysylltiad pwysig rhwng presenoldeb mewn ysgolion, llesiant, perthyn a mynediad at gymorth.

Bydd modd gweld yr Arddangosfa Fy Mhrofiad Byw o ddydd Llun 9 Tachwedd tan ddydd Iau 12 Tachwedd yn Canolfan Pentre Awel, Llanelli. Mae staff ar gael rhwng 10am a 3pm ym Mhentre Awel i roi rhagor o wybodaeth.

Bydd yr adroddiad a'r prosiect yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall yn well y profiadau sy'n sail i'r pryderon am bresenoldeb a'r rôl y gallan nhw ei chwarae wrth ddiogelu pobl ifanc.

Bydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu diogelu drwy gydol yr wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau ynghylch siarad â phlant am gam-drin rhywiol, adnabod arwyddion a dangosyddion cam-drin, rhoi llwybrau ymateb i gam-drin plant ar waith, mentora pobl ifanc, a deall rôl archwiliadau meddygol mewn ymchwiliadau diogelu.

Mae digwyddiadau cenedlaethol hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cysur.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd: 

Mae gan bob un ohonon ni rôl i'w chwarae wrth hyrwyddo llesiant, gwybod pryd y gallai rhywun fod mewn perygl a chymryd camau priodol i sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael y cymorth a'r amddiffyniad sydd eu hangen arnyn nhw.

Drwy barhau i gryfhau gwybodaeth, hyder ac ymarfer proffesiynol ar draws ein holl wasanaethau, gallwn ni sicrhau bod diogelu'n parhau i fod wrth wraidd pob rôl a phob penderfyniad, gan helpu i greu canlyniadau mwy diogel i bobl a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.”

Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn gyfle i ddathlu arferion da, rhannu dysgu ac annog sgyrsiau am sut y gall sefydliadau a chymunedau weithio gyda'i gilydd i gadw pobl yn ddiogel.