Sir Gaerfyrddin yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Goeden

11 awr yn ôl

Wythnos Genedlaethol y Goeden, sy'n cael ei chynnal rhwng 21 a 29 Tachwedd, yw dathliad coed blynyddol mwyaf y DU. Mae'r thema eleni, "Coed sy'n agos atoch chi", yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae coed yn ei chwarae yn ein bywydau bob dydd a'r manteision y maent yn eu rhoi i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu drwy dynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd ledled y sir i ddiogelu, rheoli ac ehangu ei goed, ei goetiroedd a'i fannau gwyrdd.

Mae coed yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, cefnogi bioamrywiaeth a gwella iechyd a llesiant cymunedau. Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn ystod o fentrau, gan gynnwys archwiliadau diogelwch coed, rheoli'r rhaglen clefyd coed ynn, prosiectau adfer cynefinoedd a chreu coetiroedd newydd.

Yn ystod 2025/26, roedd y Cyngor wedi plannu 16,367 o goed ar draws 7.36 hectar o dir sy'n eiddo i'r Cyngor, gan helpu i gynyddu gorchudd coetir a chryfhau bioamrywiaeth leol. Mae chwe safle coetir sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor hefyd wedi cael eu cydnabod fel rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r dynodiad yn cydnabod pwysigrwydd y safleoedd hyn i bobl, natur a'r amgylchedd ehangach.

Y gaeaf hwn, bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i wella coetiroedd glannau afon ar hyd Afon Cothi a chyflawni prosiectau gwella o fewn tirweddau Parc Dinefwr/Coed y Castell a Choetir Tregib. Bydd y gwaith yn cynnwys plannu coed a gwrychoedd, pori er lles cadwraeth a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol i wella cynefinoedd a chynyddu gwydnwch coetiroedd.

Mae'r Cyngor hefyd yn dod â manteision coed yn agosach at gymunedau trwy fentrau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan greu mannau gwyrddach i drigolion eu mwynhau am genedlaethau i ddod.

O'r coed sydd ar hyd ein strydoedd a'n parciau i'r rhai ar dir ysgolion, cymunedau a mannau gwyrdd lleol, mae coed yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ble rydym yn byw. Maent yn helpu i wella ansawdd aer, darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt, lleihau'r perygl o lifogydd, cynnig cysgod yn ystod tywydd cynhesach a chefnogi cymunedau iachach, mwy gwydn.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd

Coed yw un o'n hasedau naturiol mwyaf gwerthfawr. Maent yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, cefnogi bywyd gwyllt a chreu lleoedd iachach i bobl fyw a mwynhau. Maent hefyd yn gwella ansawdd aer, yn darparu cysgod, yn helpu i reoli perygl o lifogydd ac yn cefnogi ein llesiant. Mae Wythnos Genedlaethol y Goeden yn gyfle i ddathlu'r coed o'n cwmpas a chydnabod y gwaith sy'n digwydd ledled Sir Gaerfyrddin i ddiogelu ac ehangu ein coetiroedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol." 

Mae trigolion yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden drwy archwilio coetiroedd lleol, cofnodi coed drwy Treezilla a dysgu mwy am Goed Hynafol a Threftadaeth Sir Gaerfyrddin drwy Restr o Goed Hynafol Coed Cadw.

Trwy ddiogelu'r coed presennol a phlannu rhai newydd, gallwn ni i gyd gyfrannu at greu Sir Gaerfyrddin wyrddach, iachach a mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor.