Sicrhau buddsoddiad mawr i Gartref Dylan Thomas gyda gwelliannau cyffrous ar y gweill i'r profiad i ymwelwyr
2 awr yn ôl
Mae Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn wedi derbyn dros £77,000 gan y Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant, sef menter ar y cyd rhwng y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod yr atyniad diwylliannol pwysig hwn yn parhau i gynnig profiad o safon uchel i ymwelwyr wrth ddiogelu ei gasgliad ar gyfer y dyfodol.
Mae cartref teuluol olaf Dylan Thomas wedi bod ar agor i'r cyhoedd ers dros 50 mlynedd. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith mawr i adnewyddu'r lle arddangos ar y llawr uchaf, gan gynnwys oriel bwrpasol ar gyfer arddangosfeydd dros dro a gwybodaeth esboniadol wedi'i diweddaru fydd yn cynnwys arddangosion amlsynhwyraidd a sgriniau cyffwrdd. Hefyd bydd modd i bobl unrhyw le yn y byd weld golygfa 360 gradd o gartref Dylan Thomas drwy brofiad digidol newydd. A bydd y casgliad ei hun yn elwa hefyd, wrth i gasys arddangos arbenigol o safon amgueddfa, bleindiau haul a dulliau fframio cadwraethol helpu i'w ddiogelu ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
Mae'r amgueddfa wedi ymrwymo i fod yn fwy hygyrch a chroesawgar i deuluoedd. Bydd y llawr uchaf wedi'i ailwampio yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i brofi byd dychymyg Thomas, ei gymeriadau a'i ddelweddau barddonol. Mae hyn yn cynnwys y gornel gweithgareddau plant boblogaidd, bagiau synhwyraidd, a lle amser stori.
Mae'r buddsoddiad yn dilyn gwaith cynllunio helaeth gan CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, i ddatblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cartref Dylan Thomas. Mae CofGâr wedi rheoli'r amgueddfa ers 2023.
I ganiatáu i'r gwaith gael ei gwblhau'n ddiogel ac yn effeithlon, bydd Cartref Dylan Thomas yn cau dros dro yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2026. Mae'r cyfnod hwn wedi'i ddewis i darfu cyn lleied â phosibl ar ymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae hwn yn un o safleoedd diwylliannol mwyaf eiconig Cymru ac yn lle sydd o arwyddocâd rhyngwladol. Bydd y cyllid hwn yn helpu i ychwanegu at fwynhad pobl wrth iddyn nhw ymweld â Chartref Dylan Thomas yn ogystal â pharchu cymeriad hen gartref y bardd a'i le yng nghymuned unigryw Talacharn.
Rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl o bob oed gysylltu â Dylan Thomas, ei waith a'r bobl a'r lleoedd a'i hysbrydolodd. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn lle croesawgar, cyffrous a ffyniannus ar gyfer y cenedlaethau nesaf."
