Profiad bywyd o ddiogelu

1 awr yn ôl

Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2026: 9 i 13 Tachwedd 2026

Profiad bywyd yw thema rhaglen eang o ddigwyddiadau a gynhelir ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, gan ddechrau ar 9 Tachwedd 2026. Mae'r rhaglen wedi'i chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe'i cynlluniwyd i gydnabod pwysigrwydd gwrando ar brofiadau pobl a dysgu ohonynt, gan sicrhau bod eu lleisiau'n helpu i lywio sut rydym yn deall ffactorau risg, yn ymateb i niwed ac yn gwella arferion diogelu. Drwy gydol yr wythnos, bydd ymarferwyr, cymunedau a sefydliadau partner yn dod ynghyd i archwilio sut y gall profiad bywyd ddyfnhau dealltwriaeth broffesiynol, herio rhagdybiaethau a chryfhau ymatebion diogelu i blant, oedolion a theuluoedd ledled y rhanbarth.

Bydd ymarferwyr sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion yn ein cymunedau yn mynychu'r rhaglen, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, swyddogion heddlu, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon, gweithwyr ieuenctid, staff y gwasanaeth prawf, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol. Bydd ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu yn digwydd drwy gydol yr wythnos, gan archwilio themâu diogelu allweddol gan gynnwys diogelu wrth droi’n oedolyn, deall profiadau bywyd drwy adolygiadau ymarfer, gwrywdod cadarnhaol a herio casineb at fenywod, cam-drin ariannol, cam-drin domestig, a chyfrifoldebau diogelu ar draws asiantaethau.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos fydd y Gynhadledd Diogelu Ranbarthol, "Dysgu o brofiad bywyd i atal niwed rhywiol gyda'n gilydd," a gynhelir yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd, ddydd Iau 12 Tachwedd 2026. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gam-drin rhywiol a niwed rhywiol drwy safbwynt profiad bywyd a bydd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys goroeswyr, arbenigwyr diogelu ac ymarferwyr. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i ddysgu'n uniongyrchol o brofiadau bywyd ac ystyried sut y gall gwasanaethau atal cam-drin yn well a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan niwed.

Ochr yn ochr â'r digwyddiadau rhanbarthol, bydd awdurdodau lleol, partneriaid iechyd, yr heddlu a sefydliadau trydydd sector ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn cynnal eu gweithgareddau a'u sesiynau ymgysylltu eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd i blant a phobl ifanc rannu eu profiadau, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth, gweithgareddau dysgu cymunedol a sesiynau hyfforddiant ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar wella canlyniadau diogelu drwy wrando ar leisiau'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau a chymorth.

Dywed Michael Gray, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Oedolion:

Mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth ei fodd yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2026. Mae thema eleni, Profiad Bywyd, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar leisiau plant, oedolion, teuluoedd a chymunedau, a sicrhau bod eu profiadau'n helpu i lunio arferion diogelu ar draws ein rhanbarth. Drwy ddysgu, myfyrio a gweithio mewn partneriaeth, bydd y digwyddiadau hyn yn cefnogi ymarferwyr i ddeall profiadau pobl yn well ac yn cryfhau ein hymdrechion ar y cyd i amddiffyn a chefnogi'r rhai a allai fod mewn perygl o niwed."

Ychwanegodd Audrey Somerton Edwards, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Plant:

Mae gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ddysgu a gwella. Mae Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn gyfle pwysig i weithwyr proffesiynol ar draws asiantaethau ddod at ei gilydd, clywed y lleisiau hynny'n uniongyrchol, a myfyrio ar sut y gallwn barhau i ddatblygu gwasanaethau sy'n cadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel. Rydym yn arbennig o falch bod rhaglen eleni yn cynnwys cyfleoedd pwrpasol i blant a phobl ifanc gyfrannu eu profiadau a llunio arferion diogelu yn y dyfodol."

Gallwch ddilyn Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol X/Twitter @CYSURCymru, Facebook @CYSURCymru ac Instagram @cysurcymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelu drwy gydol yr wythnos.